Mwy o Newyddion
Ymrwymo i greu rhwydwaith effeithlon o wasanaethau bysiau i Gymru
Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi ailadrodd ei ymrwymiad i adeiladu rhwydwaith mwy effeithlon o wasanaethau bysiau i Gymru.
Mae hefyd wedi croesawu diwygiad Adran Drafnidiaeth y DU i'r Bil Gwasanaethau Bysiau, a fydd yn sicrhau gwybodaeth well ar fysus i bobl anabl, sef rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gefnogi ers 2013.
Wrth siarad ag Aelodau'r Cynulliad, dywedodd Ken Skates: "Gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd yw sail ein system trafnidiaeth gyhoeddus, sy'n caniatáu pobl ar draws Cymru i gyrraedd y gwaith, apwyntiadau ysbyty, sefydliadau addysg a gweithgareddau hamdden.
"Yn sicr, rydym yn gwybod bod bysiau yn dal i gludo dros 101 miliwn o deithwyr bob blwyddyn, sy'n sylweddol uwch na nifer y teithiau ar drenau.
"Rydym yn ymrwymedig i greu rhwydwaith mwy effeithiol o fysus ac i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y tymor byr drwy'r cyfnodau anodd hyn.
"Fis diwethaf yn dilyn colli tri chwmni bysiau lleol a oedd yn gwasanaethu ein cymunedau gweledig, fe wnes i gyhoeddi cynllun pum pwynt i gefnogi'r diwydiant bysiau yng Nghymru.
"Mae hyn yn cynnwys cynnig cymorth proffesiynol pwrpasol i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Fusnes Cymru a Chyllid Cymru, a galw ar awdurdodau lleol i wneud pob ymdrech i ddiogelu gwasanaethau bysiau yn y cyfnod economaidd anodd hwn.
"Rwyf hefyd am i ni weithio gydag awdurdodau lleol i nodi’r gwasanaethau bysiau sydd dan fygythiad cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu ymateb yn gyflym os bydd cynlluniau i ddod â gwasanaeth i ben.
"Gydag hyn mewn cof, rwyf wedi neilltuo cyllid i greu swyddi cydlynwyr bysiau yn y gogledd ac yn y de er mwyn trefnu gwaith ar bolisi a buddsoddi a datblygu'r model Partneriaeth Ansawdd Bysiau Statudol.
"Bydda i hefyd yn cynnal uwchgynhadledd bysiau yn gynnar y flwyddyn nesaf gydag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, grwpiau i gynrychioli teithwyr a phobl anabl, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol ac eraill i ystyried y ffordd fwyaf ariannol hyfyw a chynaliadwy i gynnal gwasanaethau bysiau.
"Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, bod gan weithredwyr bysiau llai yn rhai o'n cymunedau gweledig broblemau yn recriwtio gyrwyr a staff cynnal a chadw ac i gael cerbydau a chyfleusterau depo newydd.
"Rhain yw'r materion rwyf yn awyddus i'w harchwilio yn yr uwchgynhadledd."
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cefnogi cynigion yr Adran Drafnidiaeth, fel rhan o'r Bil Gwasanaethau Bysiau, i ddiwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr bysiau ddarparu gwybodaeth i deithwyr anabl ar y bysiau.
Meddai: "Yma yng Nghymru rydym wedi cefnogi systemau cyhoeddi'r safleoedd bysiau nesaf yn glyweledol, er mwyn gwella pethau i bobl sy'n ddall, sy'n fyddar neu sydd â nam ar eu synhwyrau, ers 2013.
"Mae hyn wedi cynnwys annog gweithredwyr bysiau i osod systemau o'r fath fel rhan o'n Safonau Ansawdd Bysiau Cymru.
"Rwy'n gefnogol iawn o'r ymrwymiad diweddar hwn gan Lywodraeth y DU i’w gwneud hi'n ofynnol i ddarparu gwybodaeth hygyrch ar fysus i deithwyr anabl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yn Lloegr a'r Alban er mwyn sicrhau bod gwybodaeth hygyrch o safon i deithwyr ar gael yn gyffredinol ar draws Prydain Fawr."