Mwy o Newyddion
Cyllideb Ddrafft ‘yn rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnod ansicr’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 gyda'r bwriad i roi sefydlogrwydd ac uchelgais mewn cyfnod ansicr.
Mae’r Gyllideb ddrafft yn cynnwys buddsoddiadau a fydd yn ei gwneud yn bosibl bwrw ymlaen â blaenoriaethau allweddol y rhaglen lywodraethu newydd. Mae hefyd yn rhoi sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus allweddol.
Mae hon yn Gyllideb a fydd yn rhoi cychwyn ar y gwaith o gyflawni chwe blaenoriaeth allweddol Symud Cymru Ymlaen.
Mae’n darparu:
- £111m ar gyfer prentisiaethau a hyfforddiaethau er mwyn dechrau cyflawni’r ymrwymiad i greu 100,000 o brentisiaethau i rai o bob oed;
- Toriad trethi o £100m i fusnesau bach;
- £10m i gefnogi prosiectau peilot gofal plant fel rhan o’r ymrwymiad i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant tair a phedair oed y mae eu rhieni yn gweithio;
- Hwb o £20m i godi safonau mewn ysgolion fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu £100m dros dymor y Cynulliad hwn;
- £16m ar gyfer cronfa triniaethau newydd i roi mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol ar gyfer clefydau sy’n peryglu bywyd;
- £4.5m er mwyn codi’r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl i £50,000.
Mae’r Gyllideb ddrafft wedi’i datblygu mewn cyfnod ansicr. Mae rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni yn golygu bod y toriadau mewn termau real i grant bloc Cymru yn parhau.
Mae hynny, ynghyd â’r ansicrwydd yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE yn tanlinellu’r angen i roi sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus a’r angen i fuddsoddi yng Nghymru i greu swyddi a chreu twf yn ein heconomi.
Felly, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynlluniau refeniw un flwyddyn ar gyfer 2017-18 er mwyn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd yn y tymor byr.
Maent hefyd yn cyhoeddi cynlluniau cyfalaf pedair blynedd sy’n werth £6.9bn er mwyn bwrw ymlaen â’u hymrwymiadau uchelgeisiol a rhoi sicrwydd a hyder i’n rhanddeiliaid allweddol, i’r sector adeiladu ac i fyd busnes.
Mae’r Gyllideb ddrafft hefyd yn cynnwys pecyn o ymrwymiadau gwario ychwanegol a mesurau anghyllidol y cytunwyd arnynt â Phlaid Cymru.
Mae’r rhain yn adlewyrchu’r cytundeb a gafodd ei wneud rhwng y ddwy blaid ym mis Mai 2016 yn ogystal â nifer o fuddsoddiadau newydd y cytunwyd arnynt ar y cyd.
Yn 2017-18:
- Rhoi hwb o £240m i GIG Cymru i ddiwallu’r twf parhaus yn y galw am wasanaethau a chostau gwasanaethau;
- Sicrhau’r setliad cyllid gorau ers blynyddoedd i lywodraeth leol;
- Buddsoddi £60m yn y Gronfa Gofal Canolraddol i helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cymuned ac i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty;
- Amddiffyn cyllid y grant amddifadedd disgyblion a dyblu’r grant amddifadedd i ddisgyblion y blynyddoedd cynnar.
Dros y pedair blynedd nesaf, mae'r cynlluniau seilwaith yn cynnwys:
- £1.36bn er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy;
- £900m ar gyfer ffordd liniaru’r M4, yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus;
- £369m ar gyfer Metro De Cymru a chyllid i ddatblygu cynigion ar gyfer Metro yn y Gogledd;
- £300m ar gyfer gwelliannau i’n traffyrdd a’n cefnffyrdd;
- £46m ar gyfer Banc Datblygu Cymru newydd i gefnogi ein sector busnes;
- Cefnogi bargeinion dinesig a bargeinion twf ledled Cymru;
- Mwy na £500m i’n rhaglen ysgolion y 21ain ganrif;
- £1bn i drawsnewid a chynnal ystâd y GIG;
- Defnyddio modelau cyllido arloesol i ddatblygu Canolfan Ganser newydd Felindre.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford: “Mae hon yn gyllideb i Symud Cymru Ymlaen – ei nod yw rhoi sefydlogrwydd ac uchelgais mewn cyfnod ansicr.
“Ry’n ni’n dal i wynebu toriadau parhaus i’n Cyllideb oherwydd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU. Allwn ni ddim cuddio rhag yr heriau sy’n codi yn sgil hynny.
“Ry’n ni’n wynebu cyfnod y mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi’i alw’n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant cyhoeddus dros 11 mlynedd neu fwy.
"Mae’r Gyllideb hon wedi’i datblygu hefyd yng nghyd-destun canlyniad refferendwm yr UE a’r ansicrwydd ynghylch dyfodol ffrydiau ariannu hanfodol o Ewrop.
"Mae ein cynlluniau wedi’u llywio gan yr heriau hyn, na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.
“Yn ystod y cyfnod ansicr hwn, ry’n ni wedi cyhoeddi cyllideb refeniw un flwyddyn, a fydd yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i’n gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr yn y dyfodol agos wrth inni fynd ati i gydweithio i gynllunio at y dyfodol.
"Yn yr un modd, bydd ein cynlluniau cyfalaf pedair blynedd yn rhoi sicrwydd a hyder i’n rhanddeiliaid allweddol ac i’r sector adeiladu lleol a byd busnes.
“Mae hon yn Gyllideb uchelgeisiol hefyd. Mae’n mynd ati i gyflawni ein huchelgais ar gyfer Cymru a chyflawni’r ymrwymiadau allweddol yn ein rhaglen lywodraethu. Mae hefyd yn adlewyrchu ein cytundeb â Phlaid Cymru ar y Gyllideb.
“Dros y 12 mis nesaf, byddwn yn buddsoddi mewn prentisiaethau newydd; mewn cynlluniau gofal plant i helpu rhieni sy’n gweithio; mewn toriadau trethi i fusnesau bach; ac mewn cronfa triniaethaunewydd i sicrhau bod cleifion yn cael mynediad cyflym at driniaethau newydd ac arloesol. Byddwn hefyd yn codi swm y cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn gorfod talu ffioedd cartrefi gofal.
“Yn y Gyllideb hon ry’n ni’n gwneud ein gorau i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac i fuddsoddi yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chreu twf yn ein heconomi, gan symud ein gwlad yn ei blaen.”