Mwy o Newyddion
Neuadd Cyngor Sir Gâr yn creu sblash lliwgar ar gyfer Shwmae Su’mae
Y noson cyn Diwrnod Shwmae, fe daflwyd delwedd liwgar ar un o dyrrau Neuadd Cyngor Sir Gâr.
Trefnwyd gan Gyngor Tre Caerfyrddin, gyda chydweithrediad y Cyngor Sir. Lluniwyd y ddelwedd gan Swci Delic, o Gaerfyrddin.
Bu miloedd o unigolion, ysgolion a chymdeithasau o bob math ar draws Sir Gâr a Chymru i gyd yn cymryd rhan yn Niwrnod Shwmae, lle anogwyd pobl i gyfarch ei gilydd gyda “Shwmae?” er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Dywedodd y Cyng Mair Stephens, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros y Gymraeg: “Roedd Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle gwych i hyrwyddo'r Gymraeg ac rwy’n llongyfarch am gymryd rhan ynddo.
"Gobeithio bydd pobl yn parhau â’u hymdrechion ac yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r iaith.
“Cofiwch fod gwersi Cymraeg ar bob lefel ar gael ar ein gwefan
" Peidiwch â phoeni os yw'r cyrsiau wedi dechrau ers rhai wythnosau, gallwch ymuno â'r grŵp o hyd."
I ddynodi'r achlysur yng Nghaerfyrddin, bu cwis Cymraeg yng Nghlwb Pêl-droed Caerfyrddin ddydd Sadwrn ar gyfer dysgwyr yn ogystal â siaradwyr Cymraeg.
Yn Sir Gaerfyrddin y nod yw bod pob plentyn yn cael cyfle i adael ysgol yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae mwy a mwy o gyflogwyr ar draws y sir ac yng Nghymru benbaladr yn awyddus i recriwtio staff sy'n gallu gweithio'n gyffyrddus yn y ddwy iaith.
Mae gan y Cyngor raglen Cymraeg i Oedolion lwyddiannus er mwyn annog y rheiny sydd am siarad yr iaith neu er mwyn gwella eu sgiliau.
I drefnu lle mewn dosbarth Cymraeg, anfonwch neges e-bost at Dysguadatblygu@sirgar.gov.uk i drafod y mater.