Mwy o Newyddion
Dyfodol i'r Iaith yn croesawu cyllid i'r iaith yn y Gyllideb Ddrafft
Mae Dyfodol i'r Iaith yn croesawu'n gynnes elfennau o gyllideb y Llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r ymrwymiad i glustnodi £5miliwn ychwanegol ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg a'r penderfyniad i gefnogi Asiantaeth Iaith yn gam mawr ymlaen, medd y mudiad.
Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn galw am gryfhau trefn dysgu’r Gymraeg i oedolion, gyda’r nod o roi cyllid sy’n cyfateb i’r hyn sy’n digwydd yng ngwlad y Basgiaid, lle caiff tair gwaith cymaint ei wario ar ddysgu’r iaith i oedolion.
Mae Dyfodol yr Iaith am weld dysgu’r Gymraeg i oedolion yn rhan bwysig o nod uchelgeisiol y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Dyfodol yr Iaith hefyd wedi bod yn galw am greu Asiantaeth Iaith a fydd yn rhydd i ddatblygu gweithgareddau fydd yn hyrwyddo’r iaith yn y gymuned, gan gynnwys cadwyn o Ganolfannau Cymraeg.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: "Dyma'r math o ymrwymiad mae'r Gymraeg ei wir angen.
"Mae dysgu’r Gymraeg i oedolion, ac yn enwedig i rieni, a darpar-rieni, a'r sawl sy'n darparu gwasanaethau, wedi bod yn uchel ar ein rhestr blaenoriaethau o'r cychwyn.
"Rydyn ni hefyd wedi bod yn galw am Asiantaeth Iaith fydd yn rhydd i roi pwyslais ar hybu’r iaith yn iaith fyw a naturiol yn y gymuned."
Llun: Heini Gruffudd