Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Hydref 2016

Sicrhau buddsoddiad pellach mewn ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, llywodraeth leol, y Gymraeg a'r celfyddydau

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno ar fargen gwerth miliynau o bunnoedd, a fydd yn sicrhau buddsoddiad pellach mewn ysgolion, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, llywodraeth leol, y Gymraeg a'r celfyddydau, fel rhan o Gyllideb Ddrafft 2017-18.

Mae'r cytundeb hwn yn darparu pecyn o addewidion gwario sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Plaid Cymru, sy'n dod i gyfanswm o £119m.

Mae'n cynnwys: £30m arall ar gyfer addysg bellach ac uwch; £25m ar gyfer llywodraeth leol; a £44m o fuddsoddiad pellach yn y gwasanaeth iechyd.

Bydd y Gymraeg yn cael £5m arall diolch i gytundeb y Gyllideb, a bydd cynnydd o £3m yn y cyllid ar gyfer y celfyddydau.

Mae dadansoddiad llawn o'r addewidion gwario ynghlwm wrth y cytundeb hwn.

Bydd y Gyllideb ddrafft hefyd yn adlewyrchu meysydd polisi ar y cyd lle mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu’r un syniadau, fel y amlinellwyd yn y Compact i Symud Cymru Ymlaen, y cytunwyd arno ym mis Mai.

Bydd y cyllid a fydd yn cael ei ddyrannu yn y Gyllideb ddrafft i wireddu’r addewidion hyn yn sicrhau bod modd dechrau ar unwaith ar gyflawni yn erbyn y meysydd â blaenoriaeth a rennir hyn.

Cafodd cytundeb y Gyllideb ei negodi drwy'r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid a sefydlwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn ogystal â'r addewidion cyllido, cytunwyd hefyd ar amryw o fesurau eraill.

Mae'r rhain yn cynnwys: addewid i ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer datblygu cynllun Cymru Gyfan i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygol sy'n hanu o Gymru yng Nghymru, gan gynnwys datblygu hyfforddiant meddygol yn y Gogledd; ac ymchwilio i’r opsiynau ar gyfer cyflymu'r cynllun ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo os bydd rhagor o gyllid cyfalaf ar gael yn sgil Datganiad yr Hydref.

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru: "Mae sefydlu'r Pwyllgor Cyswllt ar Gyllid wedi bod yn garreg filltir wrth i wleidyddiaeth Cymru ddod i oed ac mae'r trafodaethau adeiladol rydyn ni wedi'u cael â Phlaid Cymru wedi cael eu cynnal yn yr un ysbryd.

“Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar ddechrau'r Cynulliad hwn, nid oes gan unrhyw blaid fonopoli dros syniadau da ac rydyn ni wedi gallu cynnwys llawer o gynlluniau gwario Plaid Cymru yn y Gyllideb ddrafft hon.

"Mae cytundeb y Gyllideb yn rhoi dechrau arbennig i'r gwaith o gyflawni llawer o bolisïau a rhaglenni allweddol fel bod pobl Cymru yn gallu dechrau gweld y manteision cyn gynted â phosibl."

Cafodd tîm negodi Plaid Cymru ar y pwyllgor ei arwain gan Adam Price AC, Ysgrifennydd yr Wrthblaid dros Fusnes, yr Economi a Chyllid.

Dywedodd ef: “Ers dechrau'r Cynulliad hwn, mae Plaid Cymru wedi bod yn gwbl glir y byddem yn defnyddio ein rôl fel yr Wrthblaid Swyddogol i sicrhau buddion gwirioneddol i bobl Cymru.

"Yn y fargen gyllidebol hon, rydyn ni wedi cytuno ar y setliad cyllidebol un flwyddyn mwyaf yn hanes y Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae hwn yn becyn gwerth £119 miliwn a fydd yn gwireddu llawer o’r addewidion sydd gan Blaid Cymru yn ei maniffesto, ac a fydd hefyd yn datblygu ar yr addewidion hynny.

“Diolch i rai o'r polisïau sydd wedi'u sicrhau yng nghytundeb Plaid Cymru ar y Gyllideb, bydd amseroedd aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleihau a bydd mwy o feddygon yn gweithio yn y gwasanaeth.

"Bydd mwy o gymorth yn cael i roi i bobl o'r crud i fyd gwaith, gyda 30 o oriau o ofal plant di-dâl, mwy o fuddsoddiad mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a mwy o brentisiaethau o safon yn cael eu cynnig.

"Mae Plaid Cymru hefyd wedi mynd â’r maen i’r wal a gwneud yn siŵr bod buddsoddiad pwysig yn cael ei wneud mewn seilwaith i wella ffyrdd, rheilffyrdd a llwybrau beiciau.

"Byddwn ni hefyd yn gweld mwy o fuddsoddiad yn y celfyddydau, ac mewn diwylliant a'r Gymraeg ac mae hyn yn newyddion da i bob un ohonon ni sydd am weld y genedl hon yn ffynnu.

"Yn ogystal â hyn i gyd, bydd y cyllid ychwanegol mae Plaid Cymru wedi'i sicrhau ar gyfer llywodraeth leol yn golygu na fydd cynghorau Cymru yn gweld toriadau nominal yn eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Rydyn ni'n falch o fod wedi cyflwyno cyllideb y bydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn elwa arni; mae Plaid Cymru yn cyflawni fel gwrthblaid effeithiol.”

Blaenoriaethau gwariant Plaid Cymru sydd wedi’u cynnwys yng nghytundeb y Gyllideb 2017-18
Cyllid i addysg uwch/cyllid i addysg bellach a llwybrau dysgu - £30m
Croeso Cymru - £5m
Cymraeg i Oedolion/Asiantaeth Iaith Genedlaethol - £5m
Cyllid i’r celfyddydau; astudiaethau dichonoldeb ar gyfer oriel gelf genedlaethol  ac amgueddfa bêl-droed yn y Gogledd. Dyraniadau i Gyngor Celfyddydau Cymru;  Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cyngor Llyfrau Cymru. Gweddill y cyllid i’w flaenoriaethu ar wariant ar y celfyddydau perfformio a’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru - £3m
Cyllid ar gyfer gofal diwedd oes - £1m
Cyllid ar gyfer cynllun peilot i roi diwedd ar dalu am barcio mewn canol trefi - £3m
Buddsoddi mewn addysg broffesiynol ym maes gofal iechyd, gan gynnwys ysgolion meddygol - £7m
Cyfarpar diagnostig  newydd (cyfalaf) - £15m
Cynyddu’r  gwariant ar iechyd meddwl - £20m
Rhagor o gyllid i awdurdodau lleol - £25m
Rhagor o gyllid ar gyfer y rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion a chludiant i ysgolion - £1.5m
Cyllid ar gyfer clinigau anhwylderau bwyta a hunaniaeth rywedd - £1m
Astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth - £0.3m
Astudiaeth ddichonoldeb i lwybr beicio cenedlaethol - £0.2m
Cronfa seilwaith porthladdoedd - £2m
Cyfanswm - £119m

Rhannu |