Mwy o Newyddion
Y prentisiaid cyntaf yn ymuno â rhaglen gwaith adeiladu niwclear newydd Ynys Môn
Mae carfan gyntaf o brentisiaid Pŵer Niwclear Horizon bellach wedi dechrau arni wrth i’r cwmni fynd ati i ddatblygu talent leol i gefnogi prosiect ynni mwyaf arwyddocaol Cymru mewn cenhedlaeth.
Mae’r tîm o 10 prentis, gan gynnwys wyth siaradwr Cymraeg, wedi cael eu recriwtio o’r ardal leol, a byddant wedi’u lleoli mewn gweithdy newydd, a ariennir gan Horizon, yng nghampws Bangor Coleg Menai.
Gan ymuno â thîm ehangach Horizon, byddant yn treulio’r pedair blynedd nesaf yn dysgu’r hyn mae’n ei olygu i weithio ar brosiect adeilad niwclear newydd.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddant yn gweithio tuag at gyflawni NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg, yn ogystal â chyflwyniad sylfaenol i wybodaeth a sgiliau yng nghyswllt y Diwydiant Niwclear, cyn symud ymlaen i BTEC Lefel 3 yn yr ail flwyddyn.
Bydd y drydedd flwyddyn yn ehangu eu profiad ymarferol eto, gyda phrofiad dysgu yn y gwaith penodol a helaeth, a chymwysterau a fydd yn cael eu dewis i gyfateb i’w llwybr technegol penodol.
Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon: “Rydyn ni’n falch iawn o’n carfan gyntaf o brentisiaid, sef y cyntaf o tua 700 o brentisiaethau y bydd wedi cael eu creu erbyn y bydd Wylfa Newydd yn dechrau gweithredu.
“I ni, mae hyn yn ychwanegu at y bobl leol a’r cwmnïau lleol sydd eisoes yn gweithio ar y safle, ac mae’n dangos y bydd Wylfa Newydd yn cynnig cyfleoedd gyrfaol tymor hir, wrth i Horizon addasu i’r gofynion adeiladu a datblygu sydd o’n blaenau.
"Er mai ein carfan gyntaf yw hon, rydyn ni o ddifrif ynglŷn â darparu’r buddsoddiad a’r hyfforddiant angenrheidiol i bobl leol fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y byddwn ni’n eu creu.
"O ganlyniad i lwyddiant y rhaglen hon, byddwn yn dechrau derbyn ceisiadau ar gyfer ein carfan nesaf o brentisiaid yn y misoedd nesaf.”
Mae’r prentisiaid yn ymuno â phump o raddedigion Horizon sy’n gweithio ar draws swyddfa safle Wylfa Newydd ac ym Mhrif Swyddfa’r cwmni yn Gloucester.
Byddant hefyd ymhlith y cyntaf i ddefnyddio Canolfan Beirianneg newydd arfaethedig Coleg Menai yn Llangefni, a chafodd hwb ariannol gwerth £1m gan Horizon yn ddiweddar.
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o ddarparu hyfforddiant i brentisiaid Pŵer Niwclear Horizon.
"Mae hyn yn enghraifft o sut mae Grŵp Llandrillo Menai yn gweithio gyda chwmnïau fel Horizon i wneud yn siŵr bod cyfleoedd go iawn ar gael i bobl ifanc lleol ym mhrosiect Ynys Ynni.
"Mae Coleg Menai yn arwain gwaith y Grŵp ar ddatblygiadau ynni, ac i ategu hyn mae wrthi’n ymgynghori ynghylch cynlluniau i ddatblygu canolfan beirianneg newydd ar y campws yn Llangefni.
"Rydyn ni wedi ymrwymo’n gadarn i helpu pobl ifanc i gael yr addysg, y sgiliau a’r profiad a fydd yn eu galluogi nhw i gael swyddi medrus yn lleol.”
Dywedodd Tomos Lewis, un o brentisiaid newydd Horizon: “Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi ei chael hyd yma wedi bod yn ardderchog, ac mae'r gweithdy newydd yn rhoi’r lle a'r cyfarpar i ni allu ehangu ein gwybodaeth am beirianneg ac adeiladu.
"Mae’n gwrs heriol, ond mae gennym ni fynediad uniongyrchol at arbenigedd a dealltwriaeth Horizon, yn ogystal ag anogaeth a hyfforddiant gan Goleg Menai, felly dyma’r dechrau gorau posib yn ein gyrfaoedd.”
I gael rhagor o wybodaeth am Wylfa Newydd a’r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil, ewch i http://www.horizonnuclearpower.com/hafan, ffoniwch y llinell wybodaeth am ddim ar 0800 954 9516, neu anfonwch e-bost i ymholiadauwylfa@horizonnuclearpower.com