Mwy o Newyddion
Ethol Esgob newydd Tyddewi – 1 Tachwedd
Bydd drysau cadeirlan dan glo am hyd at dridiau y mis nesaf pan etholir esgob newydd i’r Eglwys yng Nghymru.
Bydd Cadeirlan Tyddewi ar gau wrth i ‘goleg’ o 47 o bobl o bob rhan o Gymru, yn cynnwys holl esgobion Cymru, gwrdd i enwebu a phleidleisio ar restr gyfrinachol o ymgeiswyr i ddod yn Esgob nesaf Tyddewi.
Mae'r etholiad yn dilyn ymddeoliad Wyn Evans, a wasanaethodd fel Esgob Tyddewi am wyth mlynedd.
Yr esgob newydd fydd 129fed Esgob Tyddewi, esgobaeth sy'n cynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Bydd y Coleg Etholiadol yn cael hyd at dridiau i wneud penderfyniad.
Unwaith y gwneir penderfyniad, bydd y Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, yn datgloi ac agor drws gorllewinol y Gadeirlan a chyhoeddi enw’r darpar esgob.
Mae’r Coleg yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r chwech esgobaeth yng Nghymru.
Cynrychiolir yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygion a chwech o glerigion, a’r pum esgobaeth arall gan dri o leygion a thri o glerigion yr un, ynghyd â’r pum esgob arall.
Mae trafodaethau’r Coleg Etholiadol yn gyfrinachol. Enwebir yr ymgeiswyr yn y cyfarfod.
Fe’u trafodir a chynhelir pleidlais. Cyhoeddir yn ddarpar esgob yr ymgeisydd sy’n derbyn dau-draean pleidleisiau’r rhai sy’n bresennol.
Fel arall, mae’r Coleg yn dychwelyd i’r cam enwebu a’r cylch yn dechrau o’r newydd.
Gall y Coleg gwrdd am hyd at dridiau yn olynol i ddod i benderfyniad; os yw’n methu gwneud hynny o fewn yr amserlen hon bydd y penderfyniad yn mynd i Fainc yr Esgobion.
Unwaith yr etholir esgob, bydd ganddo ef neu hi hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd.
Os yw'n derbyn, caiff yr etholiad ei gadarnhau'n ffurfiol a chaiff yr esgob edyn ei gysegru ar 21 Ionawr yng Nghadeirlan Llandaf, sedd Archesgob Cymru ar hyn o bryd.
Bydd y coleg yn dechrau gyda dathliad o'r Ewcarist Bendigaid yn y gadeirlan gyda chroeso i bawb. Yn dilyn hynny bydd y Coleg Etholiadol yn cwrdd yn breifat a bydd y Gadeirlan ar glo.