Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2016

Cyhoeddi manylion Côr Eisteddfod Ynys Môn

Gyda llai na deg mis i fynd cyn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, mae manylion Côr yr Eisteddfod wedi’u cyhoeddi, a gellir cofrestru i fod yn aelod o’r côr dros yr wythnosau nesaf.

Cynhelir sesiwn ‘Dewch i Ganu’, nos Fercher 9 Tachwedd am 19.00 yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, a bwriad y sesiwn hon yw cyflwyno rhagor o wybodaeth am y côr ei hun, strwythur yr ymarferion a bydd hefyd yn gyfle i sôn am y gwaith a fydd yn cael ei berfformio gan y côr yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod: “Rydym yn gwybod bod nifer fawr o bobl yn awyddus i fod yn rhan o Gôr yr Eisteddfod ym Môn, a bod amryw wedi bod yn holi ers tro am fanylion.

"Rydym yn gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn cofrestru ac yn dod atom ar gyfer y sesiwn ‘Dewch i Ganu’. 

"Bydd y noson hon yn gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd, ac i gael blas ar beth o’r gwaith a fydd yn cael ei berfformio ar ddiwedd y cynllun eleni."

Mae lle i 250 o aelodau yn y côr eleni, felly rydym yn gofyn i bobl gofrestru ymlaen llaw, gan ein bod yn sicr y bydd diddordeb mawr yn y prosiect.

Gellir cofrestru ar-lein, www.eisteddfod.cymru/cor-eisteddfod/ymuno, a bydd ffurflenni cofrestru ar gael mewn siopau lleol, neu drwy ffonio Swyddfa’r Eisteddfod ar 0845 4090 400.  Y dyddiad cau i gofrestru yw 3 Tachwedd.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ar gyrion Bodedern o 4-12 Awst.  Bydd tocynnau ar werth o 3 Ebrill 2017.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru

Llun: Elen Elis

Rhannu |