Mwy o Newyddion
Presenoldeb disgyblion uwchradd Gwynedd a Bro Morgannwg y gorau yng Nghymru
Mae ystadegau cenedlaethol yn cadarnhau fod presenoldeb disgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd yn parhau i wella, ac fod perfformiad ysgolion y sir dros y flwyddyn diwethaf yn gydradd gyntaf o blith holl siroedd Cymru.
Mae Cyngor Gwynedd wedi llongyfarch disgyblion uwchradd y sir ar gynnydd pellach mewn presenoldeb yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Yn 2015/16 roedd perfformiad disgyblion Gwynedd gydradd gyntaf â pherffomriad Bro Morgannwg.
Daw hyn wedi adroddiad y llynedd a oedd yn dangos fod perfformiad disgyblion y sir yn ail o blith holl siroedd Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae’r ffaith fod adroddiad cenedlaethol yn cadarnhau fod lefelau presenoldeb disgyblion uwchradd Gwynedd yn parhau i wella yn destun balchder.
"Y llynedd, roedd perfformiad Gwynedd yn ail o blith holl awdurdodau Cymru, ac mae’n braf gweld fod hyn wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac fod disgyblion y sir bellach gydradd gyntaf.
“Mae’n dyst i ymroddiad ein pobl ifanc ac hefyd yn adlewyrchu'r gwaith caled mae holl staff ein hysgolion, rhieni a gofalwyr a'r gwasanaeth lles addysg wedi ei wneud i wella presenoldeb o fewn ein ysgolion.
"Roedd canran presenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf wedi cynyddu i 95.0%, sy’n gynnydd o 0.4% o’i gymharu gyda flwyddyn flaenorol a braf gallu adrodd fod gostyngiad o 2.9 % wedi bod yn absenoldebau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf."
Dywedodd Arwyn Thomas, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae gwaith ymchwil yn dangos fod cyswllt pendant rhwng lefelau presenoldeb uchel a chyrhaeddiad addysgol.
"Braf felly ydi gallu adrodd fod lefelau presenoldeb disgyblion uwchradd Gwynedd yr uchaf o ymhlith awdurdodau ledled Cymru ac fod ein perfformiad fel sir wedi gwella yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.
“Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i sichau fod plant a phobl ifanc Gwynedd yn gallu elwa ar y cyfleon sy'n dod drwy addysg.
"Fel awdurdod, byddwn yn parhau i gydweithio yn agos gydag ysgolion y sir yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf i barhau i hyrwyddo presenoldeb yn ein hysgolion.”