Mwy o Newyddion
Canolfan Iaith dan ei sang ar gyfer Shwmae Su'mae
Daeth dysgwyr Cymraeg o bob lefel at ei gilydd ddydd Sadwrn i ‘Popeth Cymraeg’, y Ganolfan Iaith yn Ninbych, fel rhan o ddathliadau Shwmae Su'mae.
Daethon nhw i Ysgol Undydd a gynigiwyd gan y Ganolfan a brofodd yn boblogaidd iawn.
“Yn anffodus, doedd gennym ni ddim digon o le ar gyfer yr holl bobl oedd eisiau mynychu’r cyrsiau,” dywedodd Ioan Talfryn, Prif Weithredwr Popeth Cymraeg.
“Mae hyn yn dangos y brwdfrydedd sydd yn Sir Ddinbych a thu hwnt i ddysgu Cymraeg.”
Y cwrs hwn oedd dechrau cyfres o gyrsiau undydd a thridiau a gynigir gan Popeth Cymraeg trwy gydol y flwyddyn.
Hefyd mi fydd y Ganolfan yn cynnig cyrsiau newydd yn y gymuned yn ystod y flwyddyn academaidd.
“Diwrnod ShwmaeSumae oedd y dechrau,” ychwanegodd Ioan. “Mi fydd sawl cyfle i barhau â’r daith trwy gydol y flwyddyn.”
Am fwy o fanylion am gyrsiau Cymraeg yn Sir Ddinbych cysylltwch â Popeth Cymraeg ar 01745 812287.