Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2016

Senedd y DU wedi lansio adran Gymraeg newydd ar ei gwefan

Heddiw lansiodd Senedd y DU adran newydd o'r enw ‘Y Gornel Gymraeg’ ar ei gwefan sy'n dod â holl wasanaethau Cymraeg Senedd y DU ynghyd.

Ymhlith y rhain mae:

  • Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi

Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gwybodaeth am waith, rôl ac aelodaeth Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Gellir gwneud ymholiadau drwy e-bost a phost yn Gymraeg.

  • Cyhoeddiadau

Bydd cyhoeddiadau sy'n esbonio'r hyn mae eich AS yn ei wneud a sut mae modd i chi gysylltu ag ef a sut mae Tŷ'r Arglwyddi yn gweithredu, bellach ar gael yn Gymraeg, ar ffurf print a PDF ar-lein.

  • Gweithdai Cymunedol

Bydd gweithdai a chyflwyniadau pwrpasol ar sut mae Senedd y DU yn gweithredu, sut mae penderfyniadau a wnaed yno'n effeithio ar fywyd pob dydd yng Nghymru, a sut gall unigolion a grwpiau leisio eu barn yn San Steffan, ar gael yn Gymraeg.

  • Pwyllgor Dethol Materion Cymreig

Mae'r Pwyllgor yn archwilio polisïau Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar Gymru ac mae ei dudalennau bellach ar gael yn Gymraeg.

  • Wythnos Senedd y DU

Rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cysylltu pobl â Senedd y DU. Bydd yn digwydd 14-18 Tachwedd.

Meddai David Clark, Pennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu Senedd y DU: “Mae cynnig ein holl wasanaethau Cymraeg mewn un man yn gyfle anhygoel i Senedd y DU gysylltu â'r gymuned Gymraeg gynyddol ac estyn allan ati.

"Buddsoddi mewn gwasanaethau, fel ein gwasanaeth ymholiadau Cymraeg, yw un o'n blaenoriaethau ac mae'n profi ein hymrwymiad i allgymorth ledled y DU.”

Dywedodd Susan Elan Jones, Llafur AS De Clwyd: “Rwyf wrth fy modd y mae Senedd y DU wedi cyflwyno’r menter newydd hon. Mae’n adnodd gwych i siaradwyr Cymraeg o Gymru a ledled y DU.”

Dywedodd Christina Rees, Llafur (Co-op) AS Castell-Nedd: “Rwy’n falch iawn o fod yn Gymraes, ac wedi bod yn astudio’r iaith ers sawl blwyddyn.

"Fel nifer o bobl eraill sydd am ddysgu Cymraeg ac ailgysylltu gyda chyfoeth ein diwylliant, rwyf wrth fy modd fod Senedd y DU yn creu’r adnodd yma i gefnogi’r nifer o siaradwyr Cymraeg, gan ehangu eu hymrwymiad i ddemocratiaeth.”

Caiff y fenter hon ei chynnal gan y Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu fel rhan o'i raglen barhaus ymgysylltu â'r cyhoedd.

Ei diben yw dangos sut mae Senedd y DU yn effeithio ar fywydau pob dydd, yn cysylltu â phobl nad yw'r sefydliad wedi eu cyrraedd eto, ac yn amrywio'r ystod o bobl sy'n rhan o waith Senedd y DU.

Rhannu |