Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2016

Elusennau Iechyd Hywel Dda yn croesawu staff newydd

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda newydd groesawu tri aelod newydd o staff i’r tîm er mwyn cefnogi datblygiad yr elusen.

Mae’r elusen sy’n anelu at wneud gwahaniaeth i ofal iechyd lleol a ddarperir gan Fwrdd Prifysgol Hywel Dda, erbyn hyn yn cyflogi Swyddog Codi Arian ym mhob un o’r siroedd a wasanaethir sef Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn ogystal â Swyddog Cyfathrebu sy’n gweithio dros y dair Sir gyda Phennaeth yr Elusen.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda yn elusen gofrestredig sy’n cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r elusen yn defnyddio rhoddion hael a dderbynnir wrth gleifion, eu teuluoedd a’r gymuned er mwyn darparu gwasanaethau sydd uwchlaw yr hyn gall y GIG eu ddarparu.

Gall hyn olygu prynu offer meddygol o’r radd flaenaf, gwella amgylchedd ysbytai neu buddsoddi mewn staff i sicrhau eu bod wedi hyfforddi gyda’r technegau diweddaraf.

Meddai Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r elusen ac rydym yn hyderus y bydd y tîm newydd yn ein cynorthwyo i ddatblygu a symud ymlaen gan godi ymwybyddiaeth a chreu incwm fydd yn ein galluogi i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i ddarparu’r lefel uchaf o ofal iechyd lleol.

"Rydym wrth ein bodd i groesawu aelodau staff newydd, gyda phrofiad helaeth er mwyn ein galluogi i symud mlaen.

"Mae gennym aelodau o staff bellach ym mhob un o’n siroedd a bydd hyn yn ein galluogi i gynnig cefnogaeth i staff sy’n awyddus i genfnogi’r elusen.”

Os hoffech chi gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda a chodi arian at eich iechyd lleol, cysylltwch ar 01267 239815 neu codiarian.hyweldda@wales.nhs.uk

Llun: Elwyn Williams, Swyddog Codi Arian Ceredigion, Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Sir Gaerfyrddin, Nicola Llewelyn, Pennaeth, Manon James, Swyddog Cyfathrebu, Tara Nickerson, Swyddog Codi Arian Sir Benfro

Rhannu |