Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Hydref 2016

Partneriaeth ar y cledrau i leihau risg llifogydd

Bydd cymunedau Cymru yn elwa o lai o berygl llifogydd a gwell cysylltiadau rheilffordd, diolch i gytundeb newydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Network Rail Wales.

Mae’r cytundeb newydd yn atgyfnerthu ymrwymiad y ddau sefydliad i gydweithio.

Bydd hyn yn golygu cydweithio ar baratoi ar gyfer effeithiau tywydd difrifol a newid hinsawdd, rheoli tir a chryfhau asedau naturiol a thrafnidiaeth Cymru.

Mae’r ddau sefydliad eisoes wedi helpu’r naill a’r llall ar sawl cynllun arfordirol ac afonol.

Un enghraifft yw’r gwaith ar y cyd i gael gwared o falurion a cherrig crynion mawr o dan bontydd rheilffordd gan gynnwys Pont Afon Rhondda Fach yn y Porth. Mae hyn yn sicrhau llai o berygl llifogydd i’r lein ac i’r eiddo i fyny’r afon.

Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn falch iawn o gael bod yn rhan o’r bartneriaeth hon a phan fydd sefydliadau yn cydweithio gallwn gyflawni mwy.

"Felly mae’r cytundeb hwn yn golygu y bydd yr amgylchedd a defnyddwyr y rheilffordd i gyd yn elwa.

“Mae’n ffurfioli’r berthynas weithio flaenweithredol a ddatblygwyd rhwng CNC a Network Rail Wales yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn arbennig sut yr ydym yn rheoli peryglon llifogydd i gymunedau a’r rhwydwaith rheilffordd.

“Yn Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol yn ddiweddar pwysleisiwyd fod angen i wahanol sefydliadau gydweithio i wella gwytnwch ein hamgylchedd, adnoddau naturiol ac ecosystemau, a bod y bartneriaeth hon yn rhoi’r egwyddor hon ar waith.”

Meddai Andy Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau Network Rail Wales: “Rydym yn hynod o falch ein bod yn adeiladu ar y bartneriaeth gydweithiol sy’n bodoli eisoes gyda Cyfoeth Naturiol Cymru drwy arwyddo’r memorandwm hwn.

"Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol gan ein bod yn gweithio i gyflwyno ein Cynllun i Ddiweddaru’r Rheilffordd i ddarparu gwell rheilffordd i deithwyr ac i gymunedau ledled Cymru a thros y ffin.

"Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y berthynas weithio bositif a blaenweithredol hon gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn y dyfodol.”

Llun: Emyr Roberts ac Andy Thomas

Rhannu |