Mwy o Newyddion
Pobl mewn gofal preswyl i gadw mwy o’u harian
Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi y bydd pobl yn cael cadw mwy o’u harian pan fyddan nhw mewn gofal preswyl, a hynny o’r flwyddyn nesaf.
Yn y cynllun pum mlynedd, “Symud Cymru Ymlaen”, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fwy na dyblu terfyn swm y cyfalaf sy’n cael ei ddefnyddio wrth godi tâl am ofal cymdeithasol preswyl, a hynny o £24,000 i £50,000.
Heddiw, cyhoeddodd Rebecca Evans y bydd y terfyn newydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, gan ddechrau drwy ei godi i £30,000 o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae’r penderfyniad i gyflwyno’r newid fesul cam yn adlewyrchu’r adborth a gafwyd oddi wrth awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal, a’r bwriad yw sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o amser i addasu i’r newidiadau.
Mae’r penderfyniad hefyd yn seiliedig ar yr ymchwil annibynnol a gafodd ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i wybod bydd fyddai’r costau diweddaraf o weithredu’r newid.
O fis Ebrill nesaf bydd y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru’n llawn yn holl asesiadau ariannol awdurdodau lleol, wrth godi tâl am ofal cymdeithasol.
Dywedodd Rebecca Evans: “Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn, a’r rheini y mae angen gofal arnyn nhw.
"Dyna pam mae ymrwymiad yn ein cynllun pum mlynedd 'Symud Cymru Ymlaen' i fwy na dyblu’r cyfalaf y caiff pobl ei gadw pan fyddan nhw mewn gofal preswyl.
"Mae hyn yn rhyddhau mwy o’u harian iddyn nhw ei ddefnyddio yn ôl eu dymuniad.
“Rydyn ni’n cymryd camau pendant i gyflawni’r ymrwymiad hwn.
"Mae’n dda gen i gyhoeddi y bydd terfyn y cyfalaf yn codi i £30,000 o fis Ebrill nesaf.
"Mae hwn yn gam cyntaf positif tuag at gyflawni ein hymrwymiad i sicrhau terfyn o £50,000.
“Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu barn rhanddeiliaid y byddai gweithredu’r cap newydd fesul cam yn rhoi amser i awdurdodau lleol a chartrefi gofal addasu i’r newidiadau.
"Hefyd, byddwn ni’n cael y cyfle i fesur yr effaith a gaiff y terfyn uwch o ddydd i ddydd.
“Hefyd mae’n dda gen i gadarnhau y bydd y Pensiwn Anabledd Rhyfel yn cael ei ddiystyru’n llawn o fis Ebrill nesaf yn holl asesiadau ariannol awdurdodau lleol wrth godi tâl am ofal cymdeithasol.
"Bydd y newid hwn yn sicrhau na fydd cyn-aelodau’r lluoedd arfog, sy’n derbyn y pensiynau hyn, yn gorfod eu defnyddio i dalu cost eu gofal.”