Mwy o Newyddion
Pysgod meirw ddim yn achosi pryder
Nid yw adroddiadau o filoedd o bysgod bach meirw ar draethau ym Mae Ceredigion yn achos pryder, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Yn y diwrnodau diwethaf, mae pobl wedi adrodd digwyddiadau tebyg mewn nifer o ardaloedd arfordirol gan gynnwys Aberaeron, Aberystwyth, Abermaw, Harlech a Chwilog.
Mae’n debygol bod traethau eraill hefyd wedi eu heffeithio yn yr un modd.
Dywed arbenigwyr CNC bod hyn yn ffenomenon naturiol a achosir gan fecryll a physgod eraill yn hela mewn moroedd tawel.
Dywedodd Rowland Sharp, swyddog pysgodfeydd morol i CNC: "Mae'r moroedd tawel yr wythnos hon yn golygu bod macrell yn gwthio pysgod bach yr holl ffordd i'r traethau.
"Bydd y pysgod yn y peli abwyd hyn yn nofio yr holl ffordd i’r traeth mewn ymdrech i ddianc.
"Gall hyn ymddangos fel mater i achosi pryder, ond dim ond natur wrth waith ydi’o mewn gwirionedd."
A gall hefyd fod yn amser da i weld dolffiniaid o amgylch yr arfordir fel y maent, yn eu tro, yn ceisio dal y mecryll.
Dywed CNC bod y digwyddiadau hefyd yn pwysleisio ansawdd uchel yr amgylchedd morol yng Nghymru a’r pwysigrwydd o ofalu amdano.
Ychwanegodd Rowland Sharp: "Mae'r moroedd o amgylch arfordir Cymru yn un o'n hasedau naturiol pwysicaf, yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd morol.
“Mae hyn wrth gwrs yn bwysig ynddo'i hun, ond mae hefyd yn bwysig i’r economi ac yn ased gwych i bobl mewn cymunedau lleol sy'n gallu mwynhau holl fanteision amgylchedd morol glân, iach."