Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2016

Penodi Penseiri Pantycelyn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi tîm o benseiri cyfrwng Cymraeg i weithio ar gynlluniau manwl i ailddatblygu neuadd Pantycelyn.

Cafodd y cytundeb ei ddyfarnu i benseiri Lawray yn dilyn proses dendro gystadleuol ar ran y Brifysgol.

Bydd y cwmni'n gyfrifol am y cam nesaf yn y cynlluniau datblygu ar gyfer y prosiect £10m i ddarparu 200 o ystafelloedd en-suite ar gyfer myfyrwyr ynghyd â darpariaeth arlwyo. Mae gofodau cymdeithasol a chyfleusterau at ddefnydd myfyrwyr a'r gymuned leol hefyd yn rhan o’r cynlluniau.

Fel rhan o'r cytundeb, bydd Lawray yn paratoi cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer Pantycelyn a adeiladwyd ym 1953 ac sy’n adeilad rhestredig Gradd II.

Bydd y gwaith a wneir gan Lawray yn caniatáu i'r Brifysgol symud ymlaen i gyflwyno cais a sicrhau caniatâd cynllunio, yn ogystal â chael manyleb fanwl ar gyfer y broses o dendro am gontractwyr i ymgymryd â’r gwaith ym Mhantycelyn.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: "Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen yn ein bwriad i ailagor Pantycelyn fel neuadd breswyl sy’n addas ar gyfer myfyrwyr yr 21ain ganrif.

"Mae hefyd yn golygu ein bod yn cadw at yr amserlen a osodwyd ar gyfer ailagor yr adeilad erbyn mis Medi 2019.

"Tra bo penseiri Lawray yn symud ymlaen â'r cynlluniau pensaernïol, byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar y cyllid er mwyn sicrhau fod pob dim yn ei le.

"Ers ei ddynodi’n neuadd cyfrwng Cymraeg yn 1973, mae myfyrwyr Pantycelyn wedi gwneud cyfraniad pwysig nid yn unig i fywyd Prifysgol Aberystwyth ond hefyd i’r diwylliant Cymraeg yn gyffredinol.

"Fodd bynnag, mae dirfawr angen ailwampio ar yr adeilad bellach ac rydym yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r tîm o Lawray i wneud Pantycelyn unwaith eto yn lle eithriadol i ddysgu a byw. "

Dywedodd Chris Evans, sy’n Gyfarwyddwr gyda chwmni penseiri Lawray: "Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y cytundeb yma i weithio ar adeilad sydd â statws mor arbennig yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu’r prosiect gyda Phrifysgol Aberystwyth.

"Fel cwmni â’i wreiddiau yng Nghymru a swyddfeydd yng Nghaerdydd a Wrecsam, rydym yn teimlo'n gryf am y cyfle sy’n cael ei gynnig gan brosiect Pantycelyn i wneud gwahaniaeth sylweddol i'r gymuned leol ac i Gymru yn gyffredinol.

"Ein gweledigaeth yw creu adeilad nad yw’n cynnig llety i fyfyrwyr yn unig, ond un a fydd hefyd yn gweithredu fel canolfan i ymgysylltu â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant bywiog.

"Bydd ein tîm yn cael ei arwain gan un o’n uwch benseiri Lyn Hopkins a fydd yn gweithio gydag aelodau eraill o’r cwmni sy’n siarad Cymraeg.

"Fe fydd peirianwyr ARUP Engineers ac ymgynghorwyr costau AECOM hefyd yn gweithio gyda ni.”

Mae swyddfeydd Undeb Myfyrwyr Cymru Aberystwyth UMCA ym Mhantycelyn ar hyn o bryd ac fe ddywedodd y Llywydd, Rhun ap Dafydd: “Mae hyn yn newyddion calonogol iawn ac mae UMCA yn edrych mlaen at gydweithio gyda’r penseiri er mwyn siapio Pantycelyn at y dyfodol.”

Rhannu |