Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2016

Cyfradd uwch ar gyfer y dreth stamp ar ail gartrefi i barhau yng Nghymru

Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, heddiw y bydd cyfradd dreth uwch yn dal i gael ei chodi  ar eiddo preswyl ychwanegol yng Nghymru ar ôl i dreth dir y dreth stamp gael ei datganoli ym mis Ebrill 2018.

Mae’r gyfradd uwch ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol – sef 3% yn ychwanegol at gyfraddau dreth dir y dreth stamp safonol ar hyn o bryd – yn agwedd newydd ar dreth dir y dreth stamp, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill eleni. Mae cyfradd debyg yn cael ei gweithredu yn yr Alban hefyd.

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif y bydd y gyfradd uwch ar gyfer eiddo preswyl ychwanegol yn codi £9m yn 2016-17 yng Nghymru; swm a fydd yn codi eto i £14m yn 2020-21.  Bydd cadw’r gyfradd uwch yn cynhyrchu refeniw hanfodol ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad technegol dros yr haf ar sut y gallai’r gyfradd uwch gael ei haddasu i adlewyrchu amgylchiadau Cymru yn well. Daeth nifer mawr o awgrymiadau i law, gan gynnwys galwadau i ystyried effaith eiddo sy’n wag am gyfnodau hir, a sut y byddai modd eu defnyddio unwaith yn rhagor i greu tai fforddiadwy. 

Yn sgil yr ymgynghoriad technegol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cadarnhau y bydd y gyfradd uwch yn parhau i gael ei chodi yng Nghymru pan fydd y dreth trafodiadau tir  yn disodli treth dir y dreth stamp ym mis Ebrill 2018.

Er mwyn sicrhau bod cyfradd uwch briodol ar waith, bydd y Llywodraeth yn cynnig diwygiadau yn ystod cam 2 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru), sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyd o bryd. O ganlyniad, gall y dreth trafodiadau tir gynnwys cyfradd uwch o dreth ar eiddo preswyl ychwanegol.

Dywedodd yr Athro Drakeford:  “Cafwyd ymateb rhagorol i’r ymgynghoriad technegol ar y gyfradd uwch o dreth ar eiddo preswyl ychwanegol, ac ynghylch parhau i godi’r gyfradd uwch yng Nghymru pan fydd y dreth stamp yn cael ei datganoli ym mis Ebrill 2018.

“Roedd barn yr ymatebwyr yn glir o ran o ran y pwysigrwydd o weithredu’n gyson ar draws y  Deyrnas Unedig. Heddiw, dw i’n cyhoeddi y bydd y gyfradd uwch hon yn bodoli yng Nghymru pan fydd y dreth trafodiadau tir – sef y dreth a fydd yn disodli’r dreth stamp yng Nghymru – yn dod i rym. Bydd y refeniw hanfodol a fydd yn cael ei gynhyrchu yn helpu i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr.

“Mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle sy’n cael ei greu wrth ddatganoli trethi i ystyried a yw’n bosibl gwneud newidiadau i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, a chreu ffocws ar anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru. Byddwn yn parhau i bwyso a mesur yr awgrymiadau a gafodd eu cynnig gan randdeiliaid ar sut y byddai modd addasu’r gyfradd uwch hon drwy is-ddeddfwriaeth i’w gwneud yn gydnaws ag amgylchiadau Cymru.”
 

Rhannu |