Mwy o Newyddion
Pantycelyn: Gohirio protest yn dilyn cyfarfod cadarnhaol
Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi penderfynu gohirio protest ynghylch Pantycelyn yn dilyn cyfarfod cadarnhaol gydag uwch swyddogion Prifysgol Aberystwyth heddiw.
Roedd y myfyrwyr yn pryderu ynghylch yr ansicrwydd am ddyfodol y neuadd.
Meddai Jeff Smith, aelod o'r Gell a fu yn y cyfarfod: "Dwi'n falch ein bod wedi cael addewid o amserlen o'r prif gamau allweddol i ail-agor y neuadd erbyn 2019, a bod swyddogion y brifysgol wedi addo cyfathrebu yn well gyda'r myfyrwyr a'r cyhoedd ar yr adeg dyngedfennol hon.
"Dyna rywbeth sydd wedi bod ar goll - a thynnu sylw at hynny oedd y bwriad yn y brotest roedden ni wedi ei threfnu yn ystod diwrnod agored y Brifysgol yfory."
Meddai Manon Elin, a fu hefyd yn cynrychioli'r Gell yn y cyfarfod: "Rydyn ni'n teimlo fod y cyfarfod wedi bod yn un buddiol iawn, gyda sicrwydd fod Pantycelyn ymhlith tair prif flaenoriaeth cyllido'r Brifysgol.
"Bydd cyfle gan y myfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf i fyw yn neuadd Pantycelyn yn ystod eu trydedd flwyddyn, felly gobeithiwn y bydd y sicrwydd yma yn arwain at gynnydd yn nifer y myfyrwyr fydd yn dod i brofi cymuned Gymraeg y Brifysgol ym Mhantycelyn.
"Fyddwn ni ddim yn cynnal unrhyw ddigwyddiad yfory felly, ond byddwn ni'n parhau i gadw llygad ar y Brifysgol i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen."