Mwy o Newyddion
Deg o deithiau cerdded gorau'r Hydref
Mae’r awyr yn iach a’r lliwiau’n werth eu gweld – yn wir, mae’r Hydref yn adeg berffaith i fwynhau golygfeydd godidog a gogoneddus ein gwlad.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynd ati i ddewis deg o deithiau cerdded gwerth chweil - felly, pa un a ydych yn gerddwr profiadol ynteu’n mwynhau mynd ar dro hamddenol gyda’ch teulu a’ch cyfeillion, pa un a ydych yn hoff o goetiroedd, gweundiroedd neu draethau - fe fydd yna rywle ichi ei ddarganfod.
Meddai Mary Galliers, Swyddog Marchnata Hamdden a Thwristiaeth CNC: “Mae ein safleoedd yn cynnig amryw byd o arddangosfeydd ysblennydd yr adeg yma o’r flwyddyn. O’r dail aur, coch a brown sy’n troi eu lliwiau ar y coed, i’r glaswelltiroedd oren a melyn a’r corsydd a’r gweundiroedd porffor a choch.
“Dyma dymor gwych i fynd am dro i leoedd sydd wedi bod yn brysurach yn ystod misoedd yr haf – cyfle i fwynhau’r traethau a oedd gynt dan eu sang, neidio mewn pyllau a mwynhau crensian y dail dan eich traed mewn coetiroedd tawel.
“Chwiliwch am ffyngau anarferol a phlanhigion sy’n blodeuo’n hwyr mewn twyni tywod, neu am fwsoglau a chennau ar hyd llwybrau afonydd.
“Yn ogystal â mwynhau mynd am dro, byddwch hefyd yn gwneud rhywbeth er budd eich iechyd, oherwydd mae pobl egnïol sy’n mwynhau’r awyr agored yn fwy tebygol o fyw bywydau hirach, iachach a hapusach.”
Mae Llwybr Elidir ym Mhont Melin-fach ym Mannau Brycheiniog ymhlith y deg taith gerdded orau. Yng nghrombil ardal y rhaeadrau, gall y rhaeadr hon fod yn hynod drawiadol ar ôl glaw trwm. Ar hyd y llwybr yma, yn ôl llên gwerin, fe allwch ddod o hyd i fynedfa byd y tylwyth teg.
Ond hyd yn oed os na chewch gip ar dylwythen deg, fe fyddwch yn siŵr o weld digonedd o fwsoglau, rhedyn a chennau ar hyd y daith!
Wyddoch chi fod coed o bob cwr o’r byd wedi’u plannu ar hyd Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig ym Mharc Coed y Brenin ger Dolgellau? Gall chwilio am y labeli enwau a dod o hyd i ffeithiau diddorol ar yr arwyddion fod yn gêm wych i gerddwyr ifanc – lle perffaith i ymweld ag ef yn ystod gwyliau’r hanner tymor.
Mae’r gwlyptir enfawr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ger Tregaron yn olygfa ddramatig unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond mae’r lliwiau’n werth eu gweld yn ystod yr hydref. Dyma le gwych i fywyd gwyllt hefyd, ac ar ddiwrnodau cynhesach efallai y gwelwch weision neidr a mursennod yn gwibio uwchben y dŵr, neu fadfall neu wiber ar y llwybr pren hyd yn oed yn mwynhau heulwen olaf y flwyddyn.
Mae’r deg taith gerdded a ddewiswyd yn cynnwys nifer o deithiau cerdded byrrach sy’n addas i deuluoedd â phlant ifanc. Ceir arwyddbyst ar bob llwybr a chewch eich tywys naill ai trwy goedwig neu Warchodfa Natur Genedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gan ambell un o’r safleoedd hyn ganolfannau ymwelwyr a chaffis hefyd lle y gallwch ddysgu mwy am yr hyn rydych wedi’i weld a mwynhau paned gynnes!
Dyma’r deg taith gerdded rydym wedi’u dewis:
Llwybr 1: Llwybr Cors Caron, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, Tregaron, Canolbarth Cymru
Llwybr 2: Llwybr Darganfod Gardd y Goedwig, Parc Coed y Brenin, ger Dolgellau, Gogledd Orllewin Cymru
Llwybr 3: Llwybr y Grib, Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth, Canolbarth Cymru
Llwybr 4: Llwybr Cylchol Coed Llangwyfan, Coed Llangwyfan, ger Dinbych, Gogledd Ddwyrain Cymru
Llwybr 5: Llwybr y Twyni, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn, ger Abermaw, Gogledd Orllewin Cymru
Llwybr 6: Llwybr Dŵr Torri Gwddf, Coedwig Maesyfed, ger pentref Maesyfed, Canolbarth Cymru
Llwybr 7: Llwybr Pont Annell, Coedwig Caeo, ger Llanymddyfri, De Orllewin Cymru
Llwybr 8: Llwybr Coedwig Minwear, Coedwig Minwear, ger Hwlffordd, De Orllewin Cymru
Llwybr 9: Llwybr Cwm Cadian, Tan y Coed, ger Machynlleth, Canolbarth Cymru
Llwybr 10: Llwybr Elidir, Pont Melin-fach, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, De Ddwyrain Cymru
I gael mwy o wybodaeth am y teithiau cerdded hyn, ewch i:
http://cyfoethnaturiol.cymru/DegUchafYrHydref