Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2016

Lansio gwefan Stori Fawr Dre-fach Felindre

I gydredeg gyda dathliadau’r hanner canfed pen-blwydd sefydlu’r Amgueddfa Wlan Genedlaethol ym mhentref Dre-fach Felindre, mae’r Grŵp Hanes Lleol yn lansio gwefan newydd ar hanes yr ardal yn ogystal ag arddangosfa ar Hanes Chwareon y fro ar Sadwrn 29 Hydref am 2 o’r gloch yn yr amgueddfa.

“Bydd hwn yn ddydd mawr a phwysig yn hanes yr ardal gan ein bod yn cofnodi holl fywyd y pentref yn ystod yr 20ed ganrif,” meddai’r Cynghorydd Ken Howell, cadeirydd pwyllgor Stori Fawr Dre-fach, Felindre.

“Ry ni wedi mynd ati i gasglu pob math o wybodaeth a deunyddiau, a dros fil o hen luniau sy’n dangops holl fywyd yr ardal yn ystod y ganrif ddiwethaf gyda cydweithrediad Casgliad y Werin Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

"Bydd adran yn yr amgueddfa o hyn allan lle cedwir artiffactau prin lleol i’r cyhoedd gael eu gweld, ac ar yr un Sadwrn byddwn yn agor arddangosfa barhaol ar Chwareon yr Ardal.”

Sefydlwyd pwyllgor Stori Fawr Dre-fach, Felindre rhyw dair blynedd yn ôl er mwyn cofnodi yr holl hanes yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Ysgrifennwyd llyfr gan Daniel Jones ar Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr’yn 1897 sy’n adrodd yn fanwl gyfoeth hanesyddol y petrefi ond bydd cynnwys y wefan newydd yn rhoi darlun clir o fywyd y fro yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Mae murlun o waith yr artistiaid Aneurin a Meirion Jones, Aberteifi sy’n darlunio bywyd yr ardal yn cael ei harddangos yn barhaol yn yr amgueddfa.

“Gyda’r holl bosibiliadau digidol sydd ar gael yn yr oes fodern hon mae’n bwysig ein bod ni’n cofnodi popeth ar ein gwefan,” ychwanegodd Olive Campden, is gadeirydd y pwyllgor a hithau wedi byw ar hyd ei hoes yn y pentref.

“Cawn wybod a gweld trwy’r hen luniau sut roedd y pentref yn edrych, pwy pedd yr arweinwyr lleol, ein diwylliant a’r sefydliadau addysg a phob agwedd arall o fywyd gwledig yn ystod y ganrif ddiwethaf.

"Agorir arddangosfa ar ‘hanes Chwaraeon y Pentref’ hefyd yn ystod y dydd a diolchwn i staff yr amgueddfa am bob cymorth gyda’r gwaith pwysig hwn,” ychwanegodd Mrs Campden.

Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 2 o’r gloch ac mae croeso agored i bawb i ddod.

Llun:  Tîm Bargod Rangers yn y 60au

Rhannu |