Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2016

Aled Edwards, Cytûn yw Cadeirydd newydd Panel Dyngarol yr Urdd

Cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru heddiw mai Cadeirydd newydd Panel Dyngarol yr Urdd yw’r Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr mudiad Cytûn.

Yn wreiddiol o Drawsfynydd yng Ngwynedd, cafodd ei ordeinio’n weinidog yr Eglwys yn Nghymru ym 1979.

Ers hynny mae wedi gwasanaethu yng Nglanogwen, Bethesda; Llandinorwig a Phenisa’rwaun; Botwnnog a Chaerdydd.

Mae Aled wedi bod yn Brif Weithredwr Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) er 2006, ac mae ganddo ddiddordeb gref mewn materion sy’n ymwneud â cheiswyr lloches a ffoaduriaid, cydberthynas hiliol a chydraddoldeb a hawliau dynol.

Y mae’n gyn-gadeirydd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, yn gyn aelod o Bwyllgor Cynghori Hawliau Cyfartal Cymru, a bu’n Gomisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol.

Bellach ef yw Cadeirydd Displaced People in Action, ac mae’n aelod o Bwyllgor Cymru o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Bydd Aled yn cychwyn ar ei waith yr wythnos hon wrth iddo gadeirio ei gyfarfod cyntaf o’r Panel, lle bydd strategaeth a gweledigaeth gwaith dyngarol y mudiad yn cael ei lunio.

Criw o wirfoddolwyr sydd yn aelodau o Banel Dyngarol yr Urdd sydd yn cwrdd yn chwarterol i gynorthwyo gyda phrosiectau dyngarol y mudiad, sy’n cynnwys Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, Sul yr Urdd, teithiau tramor a datblygu gwaith dyngarol yr Urdd i feysydd newydd.

Ar ddydd Sadwrn, 15 o Hydref bydd hefyd yn mynychu cyfarfod o Fwrdd Syr IfanC i nodi’n ffurfiol eu bod yn arwain ar thema a Neges Heddwch ac Ewyllys Da plant a phobl ifanc Cymru ar gyfer 2017.

Cychwyn y daith i’r neges fydd hyn, fydd yn sicrhau bod llais pobl ifanc yn ganolog i waith dyngarol a neges yr Urdd.

Gan ymateb i’w benodiad, dywedodd Aled: “I gefndir argyfyngau rhyngwladol sy’n effeithio ar gymaint o blant a phobl ifanc, a sefyllfa yng Nghymru sydd ar sawl gwedd yn llai goddefgar y mae rôl yr Urdd yn bwysicach nawr nac erioed.

"Ynghyd â’r panel, dwi’n gobeithio canolbwyntio ar hyrwyddo Cymru sydd yn gynhwysol ac yn groesawgar. 

"Ar sail hyn, carwn fod yn eofn yn nhermau cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da i’r gymuned rhyngwladol.”

Dywedodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Hoffwn estyn croeso mawr i Aled i deulu’r Urdd, a diolch iddo am dderbyn y rôl fel Cadeirydd y Panel Dyngarol.

"Drwy ei waith gyda Cytûn, mae Aled wedi dangos ei fod â’r gallu i ddod â charfannau o bobl at ei gilydd i drafod ac ystyried materion dyngarol o bwys yn effeithiol.

"Mae materion cyfoes o ddiddordeb mawr i bobl ifanc Cymru, ac mae angen i ni fel mudiad sicrhau ein bod yn flaengar wrth ymateb i achosion sydd o bwys i’n haelodau.

"Bydd y Panel Dyngarol yn gweithio ar ehangu ar waith dyngarol yr Urdd fel mudiad, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gydag Aled i roi rhaglen waith mewn lle dros y misoedd sydd i ddod.

"Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i’r cyn-gadeirydd, Edward Morus Jones, am 25 mlynedd o waith diflino gyda Phanel Dyngarol yr Urdd.”

Rhannu |