Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Ffansi camu i esgidiau rhywun enwog?

Bydd dros gant o esgidiau merched enwog o Gymru yn cael eu harddangos a’u gwerthu mewn arwerthiant arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro er mwyn codi arian at achos da.

Mae enwau adnabyddus fel Cerys Matthews, Alex Jones, yr actores a gwraig Ioan Gruffudd Alice Evans, y ferch dywydd Siân Lloyd, cyflwynwyr teledu a radio fel Angharad Mair, Heledd Cynwal a Caryl Parry Jones, beirdd a llenorion megis Mererid Hopwood, Angharad Price a Bethan Gwanas a sawl gwleidydd ac artist arall yn cefnogi’r ymgyrch Sodlau’n Siarad sydd wedi ei drefnu gan Merched y Wawr, yr Eisteddfod Genedlaethol ac Achub y Plant.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd cyfle i ymwelwyr roi cynnig am esgidiau'r enwogion a hefyd yn ystod arwerthiant arbennig a gynhelir yn y Babell Lên ar ddydd Iau, 4 Awst am 5.00 o’r gloch.

Gall pobl hefyd wneud cynnig am bâr o esgidiau ymlaen llaw rhwng rŵan ac wythnos yr Eisteddfod os oes rhywbeth yn mynd â’u bryd drwy fynd ar wefan yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=512 neu Merched y Wawr – www.merchedywawr.com.

Bydd stondin Achub y Plant ar y maes hefyd yn cael ei drawsnewid yn siop sgidiau go arbennig sy’n gwerthu cannoedd o esgidiau sydd wedi eu casglu a’u rhoi gan aelodau Merched y Wawr hyd a lled Cymru.

Meddai Cyfarwyddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris: “Ers lansio’r ymgyrch yn gynharach eleni mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel gyda merched enwog yn barod i gyfrannu eu hesgidiau, ac ambell i bâr gyda stori ddiddorol iawn y tu ôl iddyn nhw. Mae’r gantores Cerys Matthews wedi rhoi'r esgidiau a wisgodd i recordio fideo ‘Road Rage’ a Llinor ap Gwynedd o Pobol y Cwm wedi rhoi esgidiau a wisgwyd hefyd gan ei chymeriad Gwyneth i briodi ynddyn nhw!

“Mae aelodau Merched y Wawr hefyd wedi bod wrthi’n ddiwyd yn casglu esgidiau ac mae ein swyddfa yn Aberystwyth dan ei sang gydag dros fil o barau o esgidiau, i gyd bron fel newydd neu mewn cyflwr ardderchog. I bob merch sy’n hoffi prynu esgidiau bydd maes yr Eisteddfod eleni yn lleoliad gwych i chwilio am fargen gyda’r elw i gyd yn mynd tuag at helpu plant bregus o amgylch y byd.”

Mae’r ymgyrch hefyd yn rhan o ddathliadau'r Eisteddfod yn 150 oed eleni ac mae’r merched enwog ac aelodau’r cyhoedd wedi derbyn gwahoddiad i rannu eu hatgofion eisteddfodol dros y blynyddoedd.

Llun: Actoresau Pobol y Cwm Maria Pride, Victoria Plucknett a Llinor ap Gwynedd

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Rydym yn falch iawn i gydweithio gyda Merched y Wawr i godi ymwybyddiaeth o waith pwysig Achub y Plant a hefyd dathliadau'r Eisteddfod yn 150 yn ei ffurf bresennol. Mae’n bosib cael cip a rhoi cynnig am esgidiau'r merched enwog ar wefan yr Eisteddfod.”

Petai esgidiau yn gallu siarad byddai pâr o dreiners arbennig iawn sydd wedi eu cynnig i’r ymgyrch gan y gyflwynwraig Lowri Morgan yn gallu siarad cyfrolau. Yn gynharach eleni llwyddodd Lowri i goncro un o sialensiau anoddaf y blaned - marathon yr 6633 Ultra gan ddod y chweched person yn unig yn yr holl fyd groesi’r llinell derfyn. O dan amodau rhewllyd yr Arctig bu’n rhaid i Lowri gwblhau pellter o 350 milltir mewn dim ond wyth diwrnod.

“Dyma’r treiners y bues i’n hyfforddi ynddyn nhw a hefyd rhedeg rhannau o’r ras. Mae pâr cyffredin o esgidiau rhedeg fel arfer yn para am tua 400 milltir ond mae’r rhain wedi fy nghludo dros bellter o 4,000 o filltiroedd ar draws tirwedd Cymru, Sweden a’r Arctig. Maen nhw wedi gweld pob emosiwn dan haul - o rwystredigaeth, i anobaith llwyr i’r llawenydd mwyaf - ac rwy wedi colli sawl gewyn a chwysu gwaed ynddyn nhw, yn llythrennol. Ond peidiwch â phoeni, rwy wedi eu golchi nhw ar gyfer eu gwerthu!

“Roeddwn i am gyfrannu'r trainers hyn i’r ymgyrch Sodlau’n Siarad fel y gall rhywun arall fod yn rhan o’u stori. Nid dim ond stori am ennill yw hi: mae’n stori am wthio ffiniau ac am ddyfalbarhad. Mae nifer o famau a babanod yng ngwledydd tlotaf y byd yn dyfalbarhau bob dydd, dim ond i gael digon o fwyd a dŵr glan i fyw arno. Rwy’n gobeithio y bydd yr arian y bydd y trainers yma yn ei godi yn helpu i sathru'r anghyfiawnder yma.”

Mae’r merched enwog hefyd wedi bod yn rhannu eu hatgofion Eisteddfodol fel rhan o ddathliad yr Ŵyl yn 150 oed eleni. Mae’r actores Victoria Plucknett wedi cyfrannu pâr o esgidiau a wisgodd ei chymeriad Diane yn ei phriodas gyda Dai Ashurst (Emyr Wyn) yn Pobol y Cwm.

“Fy esgidiau personol i yw’r rhai rwyf wedi eu cyfrannu, ond fe fenthycais i nhw i Diane ar gyfer dydd ei phriodas â Dai Ashurst nôl yn 2008. Ond mae’n rhyfedd i feddwl bod Emyr Wyn a minnau wedi cwrdd dros ddeugain mlynedd yn gynharach, wrth gystadlu yn erbyn ein gilydd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970 yn adrodd darn o’r ysgrythur!”

Gyda’r arian a fydd yn cael ei godi gan yr apêl Sodlau’n Siarad bydd Achub y Plant yn gallu atal miloedd o farwolaethau diangen ymhlith plant fel rhan o ymgyrch genedlaethol yr elusen ‘Dim Un Plentyn Wedi’i Eni i Farw’.

Ychwanegodd Jessica Evans o Achub y Plant yng Nghymru: “Mae dros wyth miliwn o blant o dan bump oed yn marw yn ddiangen bob blwyddyn o achosion y gellir eu trin yn rhwydd ac yn rhad fel dolur rhydd, llid yr ysgyfaint a malaria. Gall £3 am bâr o esgidiau frechu tri phlentyn rhag yr afiechydon yma; gall pâr o esgidiau un o’r merched enwog sy’n gwerthu am £20 brynu blancedi cynnes i atal 10 o fabanod newydd-anedig rhag llid yr ysgyfaint.

“Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Merched y Wawr a’u haelodau, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r merched enwog am eu cefnogaeth anhygoel ac yn gobeithio y bydd y cynigion yn llifo rhwng nawr a’r Eisteddfod. Edrychwn ymlaen hefyd at weld haid o brynwyr esgidiau eiddgar yn heidio i’n stondin i chwilio am fargenion yn ystod wythnos yr Eisteddfod.”

I roi cynnig am bâr o esgidiau ewch i wefan yr Eisteddfod http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=512 neu gwefan Merched y Wawr www.merchedywawr.com. Bydd y cynigion olaf yn cael eu derbyn am 2.00 o’r gloch ar ddydd Iau 4 Awst gyda’r esgidiau yn mynd i’r cynnig uchaf.

Rhannu |