Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Hydref 2016

Ymateb syfrdanol i Cantata Memoria; teyrnged i Aberfan

Mae teyrnged y cyfansoddwr Syr Karl Jenkins a'r prifardd Mererid Hopwood i drychineb Aberfan, Cantata Memoria: Er mwyn y plant, wedi cael ymateb syfrdanol ers y perfformiad gwefreiddiol cyntaf ar y penwythnos.

Cafodd y gwaith newydd ei berfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Sadwrn 8 Hydref.

Yn gwylio roedd neuadd orlawn yn cynnwys aelodau o deuluoedd rhai o'r bobl fu farw yn y trychineb ar 21 Hydref 1966.

Mae’r ymateb i'r gyngerdd wedi syfrdanu Prif Weithredwr S4C, Ian Jones, ers iddi gael ei dangos ar S4C ar y noson ganlynol.

Meddai: "Dwi wedi fy syfrdanu gan yr ymateb ry' ni wedi ei dderbyn.

"Mae'r ganmoliaeth i'r cyfansoddwyr a'r perfformwyr wedi dod yn un llif, ac yn gymysg â hynny, mae pobl wedi teimlo'r angen i dalu eu teyrngedau eu hunain i gymuned Aberfan.

"Mae'r gwaith o ddod a Cantata Memoria yn fyw, o'r sgwrs gyntaf un gyda Syr Karl Jenkins hyd y perfformiad gwefreiddiol ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, wedi bod yn brofiad y gwna i fyth ei anghofio.

"Gyda'i gilydd mae Syr Karl Jenkins a Mererid Hopwood wedi creu trysor a fydd yn deyrnged oesol i gymuned gadarn Aberfan, ac rwy'n hynod falch bod S4C, fel comisiynwyr y gwaith, wedi bod yn rhan allweddol o greu rhywbeth sydd mor bwysig i gof cenedl."

Mi fydd perfformiad gwefreiddiol Cantata Memoria yn cael ei ddangos eto ar S4C nos Iau 20 Hydref 9.30 - ar drothwy'r dydd sy'n nodi 50 mlynedd ers y trychineb.

Mae'r darllediad unigryw yma ar gael i wylwyr ar draws y byd ar wasanaeth ar-lein rhyngwladol S4C, s4c.cymru/rhyngwladol, ynghyd â stori ddirdynnol y daith i greu'r gwaith yn y rhaglen ddogfen Aberfan: Stori'r Cantata Memoria.

Ar y llwyfan, dan arweiniad y maestro Syr Karl Jenkins, roedd rhai o brif artistiaid clasurol Cymru: y bas bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs, y feiolinydd Joo Yeon Sir, cerddorfa Sinfonia Cymru a chorau cyfun o leisiau hyn ac ifanc.

Mae'r gwaith wedi cael ei ryddhau ar ffurf albwm gan Deutsche Grammophon. Roedd cyngerdd Aberfan yn gynhyrchiad ar y cyd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a MR PRODUCER ar ran Elusen Coffáu Aberfan ac wedi'i gynhyrchu ar gyfer y teledu gan Rondo Media i'w ddarlledu ar S4C.

Rhannu |