Mwy o Newyddion
Yr actor Michael Sheen yn dathlu Gwobr Iris
Gwnaeth yr actor Cymreig Michael Sheen ymweliad annisgwyl â Gwobr Iris yn Cineworld, Caerdydd i ddymuno pen-blwydd hapus i'r Ŵyl ffilm LGBT yn 10 mlwydd oed ddoe.
Dywedodd Michael Sheen: "Mae'n wych dod i ymweld ag Iris.
"Mae llawer o bethau yn digwydd ac yn wych clywed bod un o enillwyr blaenorol y Wobr yn ôl gyda’i ffilm nodwedd gyntaf.
"Mae hon yn ŵyl sydd nid yn unig yn dathlu beth sy'n mynd ymlaen, ond hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd gwneuthurwyr ffilmiau trwy ganiatáu i'r enillwyr i wneud eu ffilm nesaf."
Gwobr Iris yw gwobr ryngwladol Caerdydd am ffilm fer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws sy'n cael ei chefnogi gan Sefydliad Michael Bishop.
Dyma'r unig wobr am ffilm fer yn y byd sy'n caniatáu i'r enillydd wneud ffilm newydd.
Mae Iris yn cynnig yr hyn sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilmiau – cyllid, cefnogaeth ac arweiniad.
Mae'r enillydd yn ennill £30,000 i wneud eu ffilm fer nesaf yng ngwledydd Prydain.
Llun: O’r chwith i’r dde, Andrew Pierce, cadeirydd Gwobr Iris; Michael Sheen; Berwyn Rowlands, cyfarwyddwr a sefydlydd Gwobr Iris. (Llun gan Jon Pountney)