Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Hydref 2016

Gweinidog yn gweld Siarter Iaith Ysgolion Gwynedd ar waith

Mae gwaith arloesol dwy o ysgolion Gwynedd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith cymdeithasol wedi ei ganmol yn ystod ymweliad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru.

Roedd Alun Davies AC yn ymweld ag ysgolion Abercaseg a Phen-y-bryn ym Methesda er mwyn gweld sut mae'r disgyblion yno yn cael budd o gynllun Siarter Iaith Ysgolion Gwynedd.

Gwelwyd sut mae’r ysgolion yn gweithredu’r siarter iaith a’r gwaith arloesol sy’n digwydd i annog defnydd y Gymraeg fel iaith y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

MeddaiAlun Davies: “Mae’r Llywodraeth wedi gosod nod i geisio sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Mae gan ein ysgolion a’n plant rôl holl bwysig iawn i’n helpu i gyrraedd y nod hwn – nhw yw dyfodol ein iaith ac ein cenedl.

“Mae’n allweddol bod ein plant a’n pobl ifanc yn hyderus, yn hapus ac yn awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob sefyllfa, ond yn enwedig mewn sefyllfaoedd anffurfiol.

"Mae’r Siarter Iaith wedi profi ei fod yn llwyddiannus wrth wneud hyn, ac mae’r rhaglen yn allweddol er mwyn gwreiddio hunaniaeth Gymreig yn ein plant.”

Yn ystod yr ymweliad ag Ysgol Abercaseg ac Ysgol Pen-y-bryn fe welodd y Gweinidog ddisgyblion yn defnyddio eu Cymraeg fel iaith cymdeithasu yn naturiol trwy gemau buarth, a chafwyd cyflwyniad gan rai o’r disgyblion am sut mae’r siarter iaith yn cael ei gweithredu.

Yn ogystal cafodd y Gweinidog sgwrs gyda disgyblion blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen i drafod y pontio sy’n digwydd rhwng y cynradd a’r uwchradd yn y dyffryn o ran defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Roeddan ni’n falch iawn o allu cael cyfle i arddangos y gwaith gwirioneddol arbennig sy’n digwydd yn ein hysgolion ni i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.

"Roedd yn gyfle da i arddangos y camau ymarferol sy’n digwydd i sicrhau fod y Gymraeg yn cael lle teilwng yn yr ysgol a thu hwnt.

“Nod y Cyngor wrth sefydlu’r Siarter Iaith oedd annog a chefnogi plant y sir i ddefnyddio eu Cymraeg - nid yn unig yn y dosbarth ond ym mhob agwedd o’u bywydau.

"Braf felly oedd gweld brwdfrydedd plant ysgolion dyffryn Ogwen tuag at y Gymraeg yn ystod ymweliad y Gweinidog.

“Mae’r gwaith arloesol sydd wedi bod ar waith yma yng Ngwynedd ers rhai blynyddoedd eisoes wedi ei ddefnyddio fel sail ar gyfer cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru mewn 50 o ysgolion ar draws y gogledd gyda’r bwriad o’i ymestyn ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf.”

Ychwanegodd Ceren Lloyd, Pennaeth Ysgolion Abercaseg a Phen-y-bryn, Bethesda: “Roedden ni’n falch iawn o groesawu’r gweinidog i’r ysgolion ac mi gafodd y disgyblion gyfle gwych i ddangos sut yn union maen nhw’n elwa o’r Siarter Iaith.

“Braf oedd gallu amlygu'r cydweithio naturiol sy’n digwydd ar draws ysgolion yr ardal, o’r babanod i fyny ac ymlaen wedyn i’r uwchradd. Mae sicrhau lle teilwng i’r Gymraeg o fewn y dosbarth a thu hwnt fel iaith gymdeithasol yn rhywbeth yr ydan ni i gyd wedi ymrwymo iddo.”

Lansiwyd y siarter yn wreiddiol yng Ngwynedd nôl yn 2011 ac mae’r gwaith arloesol a wnaethpwyd yn holl ysgolion cynradd y sir i ddylanwadu ar ddefnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg wedi cael ei gydnabod yn enghraifft o ymarfer da ar draws Cymru.

Rhannu |