Mwy o Newyddion
Bandstand newydd Aberystwyth yn cael ei agor yn swyddogol
Daeth Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, a Chadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Dai Mason, ag Aberystwyth heddiw i agor bandstand newydd y dref yn swyddogol.
Cafodd adeilad yr hen fandstand y tu mewn i’r wal allanol wreiddiol ei ddymchwel a chyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, adeiladwyd Morglawdd a Bandstand cyfoes newydd wedi’i ddylunio at y pwrpas gwerth £1.2 miliwn yn ei le.
Wedi ei adeiladu mewn steil ‘art deco’ yn 1935 ac wedi ei ddiweddaru yn achlysurol yn ystod yr 1960au, 70au ac 80au, gwasanaethwyd Aberystwyth yn dda gan yr hen fandstand, gan ddod yn ganolbwynt ar gyfer y gymuned wrth gynnal perfformiadau cerddorol, dawnsiau a digwyddiadau eraill.
Bydd y cyfleusterau modern a gynigir gan y bandstand newydd, sydd wedi ei gynllunio gan benseiri mewnol y cyngor, yn caniatau’r traddodiad hwn i barhau a’i ddatblygu ar gyfer y gymuned yn Aberystwyth.
Dyluniad cyfoes sydd i’r bandstand gyda’r tu blaen yn wydr er mwyn croesawu ymwelwyr i’r adeilad a gofod berfformio aml-bwrpas y tu mewn gydag unedau mewnol hyblyg y gellid eu haddasu at ddibenion gwahanol.
Ceir to sinc amlwg crwn ar ddwy lefel gyda ffenestri â fframiau o alwminiwm cryf.
Mae waliau ceudod newydd wedi’u hinswleiddio â blociau o glai gydag arwyneb sgleiniog yn amgylchynu’r adeilad, gyda goleuadau allyrru deuod sy’n tynnu sylw at siâp crwn y to.
Ceir ffenestri llithro yn y cefn sy’n wynebu’r môr ac sy’n cynnig golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion.
Pan fydd y ffenestri a’r drysau llithro yn y tu blaen ar agor, trawsnewidir y gofod yn fandstand traddodiadol gydag ochrau agored, gan felly ganiatáu i bobl ar y traeth a’r promenâd allu fwynhau perfformiadau cerddorol.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Rwy’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth yn ariannu’r prosiect yma trwy Rhaglen Adfywio Aberystwyth.
"Mae cynllun y bandstand newydd yn gweddu’n dda iawn i dreflun Aberystwyth, ac yn gartref i ofod perfformio cyfoes sydd yn barod i barhau i ddarparu profiadau sy’n cyfoethogi ar gyfer twristiaid a phobl lleol fel eu gilydd.”
Dywedodd Carl Sargeant AM, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: “Rwyf yn hapus iawn i nodi agoriad swyddogol Bandstand Aberystwyth.
"Bues i yma ddwywaith yn 2014 yn dilyn y stormydd ym mis Ionawr. Fe wnaeth y stormydd hynny ddifrodi’r Promenâd a gwneud y penawdau ar draws y byd. Mae’n wych dychwelyd i ddigwyddiad sydd mor bositif ac i nodi dycnwch y gymuned.
"Rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cyfrannu dros £571,000 o gyllid Adfywio ar gyfer y prosiect yma.
"Dyma raglen waith bwysig a oedd yn bosib i’w gyflawni o ganlyniad o berthynas weithio gref rhwng Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, a’r gymuned yn ehangach.”