Mwy o Newyddion
Senedd y DU yn lansio'r 'Gornel Gymraeg' ar ei gwefan
Bydd Senedd y DU yn lansio adran newydd Ddydd Llun o'r enw ‘Y Gornel Gymraeg’ ar ei gwefan sy'n dod â holl wasanaethau Cymraeg Senedd y DU ynghyd.
Ymhlith y rhain mae:
- Gwasanaeth Ymholiadau Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi
Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gwybodaeth am waith, rôl ac aelodaeth Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Gellir gwneud ymholiadau drwy e-bost a phost yn Gymraeg.
- Cyhoeddiadau
Bydd cyhoeddiadau sy'n esbonio'r hyn mae eich AS yn ei wneud, sut mae modd i chi gysylltu ag ef a sut mae Tŷ'r Arglwyddi yn gweithredu, bellach ar gael yn Gymraeg, ar ffurf print a PDF ar-lein.
- Gweithdai Cymunedol
Bydd gweithdai a chyflwyniadau pwrpasol ar sut mae Senedd y DU yn gweithredu, sut mae penderfyniadau a wnaed yno'n effeithio ar fywyd pob dydd yng Nghymru, a sut gall unigolion a grwpiau leisio eu barn yn San Steffan, ar gael yn Gymraeg.
- Pwyllgor Dethol Materion Cymreig
Bydd tudalennau gwe'r Pwyllgor, sy'n archwilio polisïau Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar Gymru, bellach ar gael yn Gymraeg.
- Wythnos Senedd y DU
Rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n cysylltu pobl â Senedd y DU. Bydd yn digwydd 14-18 Tachwedd.
Meddai David Clark, Pennaeth Allgymorth ac Ymgysylltu Senedd y DU: “Mae cynnig ein holl wasanaethau Cymraeg mewn un man yn gyfle anhygoel i Senedd y DU gysylltu â'r gymuned Gymraeg gynyddol ac estyn allan ati.
"Buddsoddi mewn gwasanaethau, fel ein gwasanaeth ymholiadau Cymraeg, yw un o'n blaenoriaethau ac mae'n profi ein hymrwymiad i allgymorth ledled y DU.”
Dywedodd Liz Saville Roberts, Plaid Cymru AS Dwyfor Meirionnydd: "Rwyf yn falch iawn o weld adran benodol ar gyfer adnoddau cyfrwng Cymraeg ar wefan y Senedd, ac mi fyddaf yn annog ysgolion a cholegau yn f'etholaeth a thu hwnt i wneud y defnydd mwyaf posib ohonynt."
Dywedodd Albert Owen, Llafur AS Ynys Môn: "Mae'n newyddion gwych bod fy ngwefan yn mynd i gyrraedd mwy o siaradwyr Cymraeg.
"Gan ystyried bod cymaint o fy etholwyr ar Ynys Môn yn siarad Cymraeg, mae hwn yn gam da iawn i ddod â’r Senedd yn agosach at holl etholwyr Môn.”
Caiff y fenter hon ei chynnal gan y Tîm Allgymorth ac Ymgysylltu fel rhan o'i raglen barhaus ymgysylltu â'r cyhoedd
Ei diben yw dangos sut mae Senedd y DU yn effeithio ar fywydau pob dydd, yn cysylltu â phobl nad yw'r sefydliad wedi eu cyrraedd eto, ac yn amrywio'r ystod o bobl sy'n rhan o waith Senedd y DU.