Mwy o Newyddion

RSS Icon

Newidiadau i raglen Cymunedau yn Gyntaf

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, wedi amlinellu’r newidiadau mawr y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu gwneud i raglen Cymunedau yn Gyntaf o fis Ebrill 2012.

Lansiwyd y rhaglen yn 2001 er mwyn cynnwys pobl leol yn y gwaith o adfywio ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Bydd y rhaglen yn cadw at ei ffocws cymunedol, ond o fis Ebrill ymlaen bydd mwy o bwyslais ar fynd i’r afael â thlodi a chyfrannu at agenda atal tlodi Llywodraeth Cymru.

Bydd y rhaglen yn parhau i gael ei lleoli yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ond bydd yn fwy hyblyg a bydd mwy o bwyslais ar sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf yn cefnogi’r unigolion a’r grwpiau mwyaf difreintiedig yn hytrach na chadw at ffiniau daearyddol caeth. Bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol yn penderfynu ar yr union ffiniau yn ystod, ac ar ôl, yr ymgynghoriad.

O dan y trefniadau newydd, bydd llai o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ond bydd y rhan helaeth ohonynt yn fwy o lawer nag ydynt ar hyn o bryd, gan gwmpasu nifer o’r ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf presennol. Bydd yr ardaloedd newydd hyn yn cael eu halw yn “glystyrau”.

Dywedodd y Gweinidog: “Ar hyn o bryd, mae dros 150 o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, sy’n gweithredu mewn ardaloedd o bob maint. Yn y gorffennol, mae wedi bod yn anodd i brif bartneriaid fel darparwyr iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio er mwyn pennu blaenoriaethau eu rhaglenni o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gan fod ffiniau daearyddol caeth y rhaglen yn eu cyfyngu.

“Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda phrif bartneriaid pob ardal awdurdod lleol, gan gynnwys partneriaethau presennol Cymunedau yn Gyntaf, ynghylch sut y dylid targedu dyfodol y rhaglen yn eu hardaloedd.”

Hefyd, cynhelir asesiad trylwyr o’r modd y bydd y rhaglen yn mynd i’r afael ag amddifadedd a gwella amodau byw pobl sy’n byw mewn tlodi. Bydd partneriaethau lleol Cymunedau yn Gyntaf yn canolbwyntio ar y camau gweithredu sy’n cael yr effeithiau mwyaf ar ragolygon addysg a sgiliau, sefyllfa ariannol ac iechyd unigolion.

Er mwyn mesur pa mor dda mae’r rhaglen yn diwallu anghenion y bobl fwyaf difreintiedig, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cyfres o ddangosyddion allweddol o dan y gwahanol themâu er mwyn sicrhau dull mwy cyson o asesu effaith a chyfraniad y rhaglen.

Dywedodd y Gweinidog y bydd y strwythurau newydd ar gyfer rheoli’r rhaglen yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn rhoi mwy o gysondeb i’r modd y mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg ar draws Cymru ac yn gwella atebolrwydd ariannol y rhaglen hefyd.

Dywedodd: “Fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am y rhaglen hon, fy ngwaith i yw dysgu mwy am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn sydd heb fod mor llwyddiannus er mwyn sicrhau bod pob punt o arian y cyhoedd yn cael ei defnyddio er lles ein cymunedau difreintiedig, i gefnogi’r gwaith o sicrhau gwell canlyniadau i bobl Cymru.

“Rydym am fod mor gyson ag y bo modd ynghylch y strwythurau staffio a chyflenwi ac â’r cyllid a gynigir i ardaloedd lleol hefyd. Ar yr un pryd, rhaid i ni barhau i ystyried yr amgylchiadau lleol, sy’n amrywio’n fawr. Wrth symud ymlaen gyda’r rhaglen hon, mae staff a gwirfoddolwyr presennol Cymunedau yn Gyntaf yn asedau hollbwysig inni ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod eu hymdrechion hwy yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau er mwyn inni allu cyflawni nodau’r rhaglen yn ogystal â helpu pobl leol i gymryd rhan lawn yng ngwaith y rhaglen.

“Bydd cam newydd y rhaglen yn dechrau ar 1 Ebrill 2012, ond er mwyn gallu sicrhau y rhoddir y cam newydd hwn ar waith yn llwyddiannus byddaf yn caniatáu i’r trefniadau presennol barhau am chwe mis ychwanegol os oes angen.

“Wrth symud ymlaen, ein huchelgais cyffredin fydd sicrhau y gall rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gyflawni’r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt - yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’n rhaid bod y rhaglen yn gallu mynd i’r afael â gwreiddiau tlodi ac ymdrin â’i effeithiau tra’n parhau i gadw hanfod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, sef cynnig atebion cymunedol i broblemau cymunedol.”

Rhannu |