Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Hydref 2016

Tri threlar poblogaidd yn wobrau ar raglen deledu Ffermio S4C

Mae arbenigwr ceffylau sydd wedi hyfforddi ceffylau ar gyfer sêr Olympaidd a phencampwr bridiau prin wedi ymuno â gwneuthurwr trelars mwyaf Ewrop i serennu mewn sioe deledu boblogaidd.

Mae gan Ifor Williams Trailers ran flaenllaw yn y gyfres ddiweddaraf o raglen Ffermio boblogaidd S4C ar gefn gwlad a ffermio.

Bydd tri o drelars mwyaf poblogaidd y cwmni, sydd wedi ennill sawl gwobr, ar gael i’w hennill mewn cystadleuaeth arbennig sy’n cael ei chynnal gan Ffermio.

Mae’r rhaglen yn cael ei darlledu bob nos Lun am 9.30 ar S4C, ac mae isdeitlau Saesneg ar gael.

Campws Coleg Cambria yn Llaneurgain Sir y Fflint oedd lleoliad ffilmio’r gwobrau ar gyfer y rhaglen.  Bydd y clip yn cael ei ddangos ar raglen a gwasanaeth ar-lein S4C er mwyn hyrwyddo cystadleuaeth Ffermio.

Ac yn helpu i arddangos y trelars ar eu gorau oedd y penaethiaid adran Karen Jones, gyda Henry'r ceffyl, a Wendy Gacem gyda’r geifr Bagot prin, Billy ac Elliott.

Treuliodd Karen, rheolwr y Ganolfan Geffylau, flynyddoedd yn hyfforddi ceffylau ar gyfer marchogwyr gornestau proffesiynol, yn cynnwys tîm Iwerddon ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Atlanta ym 1996, ac eraill a fu’n cystadlu yn Nhreialon Ceffylau Badminton, Punchestown a Necarne Castle.

Bydd yn cael ei dangos yn y clip ffilm gyda Henry, un o geffylau’r coleg, a oedd yn gwisgo ei offer teithio llawn, yn cynnwys esgidiau teithio Ifor Williams Trailers.

Tywysodd Karen y ceffyl gwinau i mewn i fan geffylau HB506 Ifor Williams Trailers, sy’n werth mwy na £4,000, sy’n cael ei gynnig fel un o’r prif wobrau i un o wylwyr lwcus Ffermio.

Mae Henry, sydd bellach yn 11, wedi bod yn y coleg ers chwe blynedd ac mae’r myfyrwyr yn ei ddefnyddio i ddatblygu eu sgiliau marchogaeth, yn ogystal â gwybodaeth am ymbaratoi, gofal ceffylau a thrin anifeiliaid.

Dywedodd Karen, sy’n berchen ar ei cheffyl hela ei hun, Vinnie: “Diolch i gefnogaeth garedig Ifor Williams Trailers, rydym wedi gallu defnyddio trelars y cwmni bob dydd yma yn y coleg, felly rwy’n gwybod pa mor wych ydynt.  Maent yn hawdd iawn eu defnyddio.”

Gwelwn Karen, 43 oed, hefyd yn bachu ei beic cwad i Drelar Ifor Williams, sy’n werth £950, sydd hefyd yn cael ei gynnig fel trydedd wobr yng nghystadleuaeth Ffermio.

Hefyd yn y clip ffilm, y bydd gwylwyr S4C ym mhob cwr o’r byd yn ei weld, mae rheolwr canolfan anifeiliaid bychain y coleg, Wendy Gacem.

Cafodd Wendy, sy’n 45 oed, ei ffilmio yn tywys Billy ac Elliott y geifr i mewn i Drelar da byw P8G Ifor Williams.  Mae’r trelar, sy’n werth tua £2,000, ac sydd i’w weld mewn marchnadoedd ac ar ffermydd ar hyd a lled y DU, yn cael ei gynnig fel ail wobr Ffermio, ac mae’n addas ar gyfer defaid a moch i alpacas a lamas, yn ogystal â geifr.

Dywedodd Wendy, sy’n drysorydd Cymdeithas genedlaethol Geifr Bagot: “Maent yn frid prin iawn, gyda dim ond tua 170 o eifr magu benyw, sy’n golygu ei fod yn rhywogaeth dan fygythiad, a chredir mai dyma yw’r brid geifr hynaf yn y DU.

“Mae gennym 15 o eifr Bagot yma yn y coleg, ac roedd Billy ac Elliott yn rhan o’n harddangosfa yn Sioe Frenhinol Cymru – roeddent wrth eu boddau yn cael sylw, am eu bod yn eifr hamddenol iawn.

“Mae’n bosibl dyddio’r brid yn ôl i’r 1300au ac, yn hytrach na llaeth neu gig, eu nodwedd orau yw eu bod yn hoff iawn o brysgdir.  Maent yn ddelfrydol ar gyfer pori cadwriaethol a chlirio tir - rydym yn cynnal trafodaethau gydag elusennau cadwraeth cenedlaethol i weld sut y gallwn weithio gyda hwy.”

Roedd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers, yn falch iawn o’r cyfle i fod ar y campws yn ffilmio gyda Ffermio.

“Gwyddom o’r nifer gynyddol o geisiadau pob blwyddyn bod y gystadleuaeth hon yn boblogaidd iawn gyda Ffermio.  Mae’r rhaglen yn wych - credaf ein bod yn ffodus iawn yma yng Nghymru i gael rhaglen o’r fath sy’n trin a thrafod materion gwledig, ac nid yw’n syndod i mi fod gan y rhaglen ddilyniant mawr dros y ffin yn Lloegr a thu hwnt.

“Mae ein cwsmeriaid yn deyrngar iawn ac rwy’n credu bod y gwobrau hyn yn ffordd wych o roi rhywbeth yn ôl i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad.”

Roedd y coleg hefyd yn falch o fod yn rhan o’r ffilmio, meddai Vivienne Martin, cyfarwyddwr Sgiliau Cwricwlwm Tir a Byw’n Annibynnol.

Ychwanegodd: “Mae gennym gysylltiad agos gydag Ifor Williams Trailers ers blynyddoedd lawer, felly roeddwn yn falch iawn o gael cyfle i gynnal y gwaith ffilmio hwn.  Rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor ddefnyddiol yw’r trelars, a’u bod yn hawdd eu gweithredu, i symud anifeiliaid neu offer.

“Mae’r ffilmio yn gyfle hefyd i arddangos beth sydd gennym i’w gynnig yma yn Llaneurgain i’r rhai sydd â diddordeb mewn marchogyddiaeth, garddwriaeth ac anifeiliaid bychain.”

Mae Telesgop, y cwmni cynhyrchu sy’n cynhyrchu’r rhaglen, yn disgwyl derbyn ceisiadau o bob rhan o’r DU.

Dywedodd cynhyrchydd Ffermio, Gwawr Lewis: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Ifor Williams Trailers am eu cefnogaeth unwaith eto, ac mae tir y coleg wedi darparu lleoliad delfrydol i ni ar gyfer y gwaith ffilmio.

“Gwyddom fod y gwylwyr yn gwerthfawrogi’r gystadleuaeth oherwydd rydym yn derbyn miloedd o geisiadau ac mae’r niferoedd yn cynyddu bob blwyddyn.

“Mae rhaglenni S4C i’w gweld y tu allan i Gymru ar Sky a Freesat yn ogystal ag ar y rhyngrwyd ar ôl iddynt gael eu darlledu, felly mae gennym bobl o bob rhan o’r DU, a gwledydd tramor hyd yn oed, yn cystadlu.

“Mae poblogrwydd y gystadleuaeth yn adlewyrchiad o boblogrwydd y trelars.”

Rhannu |