Mwy o Newyddion
HCC yn croesawu hwb gan archfarchnad i Gig Oen Cymru
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi croesawu’r cyhoeddiad mai’r manwerthwr Aldi yw’r diweddaraf o blith manwerthwyr bwydydd ffres yn y DU i stocio Cig Oen Cymru premiwm yr wythnos hon.
Mae’r archfarchnad wedi cyflwyno dewis o gynnyrch Cig Oen Cymru wedi’i frandio mewn 29 o siopau yn ne a gorllewin Cymru gyda lansiad swyddogol gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a chynrychiolwyr o blith ffermwyr Cymru, yng Nghaerdydd heddiw.
“Mae’n hanfodol i ddiwydiant cig coch Cymru bod ein cynnyrch ar gael ym mhob sector o’r diwydiant manwerthu ac mae segment marchnad Aldi wedi gweld twf aruthrol, yn enwedig yng Nghymru ble mae eu siâr o’r farchnad dros 10 y cant,” esboniodd Arweinydd Cyfathrebu HCC, Owen Roberts.
“Mae ystadegau gan yr arbenigwyr mewn ymchwil y farchnad, Kantar Worldpanel yn dangos bod y cyfaint o gig oen a werthwyd gan Aldi wedi cynyddu bron 14 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae nifer gynyddol o’u cwsmeriaid yn prynu cynnyrch ffres.
“Mae HCC yn gweithio mewn partneriaeth, ac yn cynnal trafodaethau cyson, gyda’r holl fanwerthwyr ac roedd nifer ohonynt yn rhan o ymgyrch Cig Oen Cymru HCC yn ystod haf 2016.
"Mae Aldi yn ymuno â manwerthwyr eraill fel Asda, Co-op, J. Sainsbury, M&S, Morrisons, Tesco a Waitrose wrth stocio cynnyrch Cig Oen Cymru PGI wedi’i frandio,” meddai Owen.
“Yn ogystal, mae cynnyrch Cig Oen Cymru o safon hefyd ar gael gan nifer o fanwerthwyr annibynnol a chan dros 300 o aelodau Clwb Cigyddion HCC,” ychwanegodd.
Mae nifer o fanwerthwyr yn pwysleisio eu hymrwymiad i gynnyrch lleol o safon yn eu hysbysebion.
“Mae hyn yn cyseinio â’r ymchwil a wnaed gan HCC mewn archfarchnadoedd dros yr haf, oedd yn dangos bod bron 80 y cant o siopwyr yn awyddus i brynu mwy o gynnyrch Cymru. Mae Cig Oen Cymru yn gynnyrch eiconig ac mae ei ansawdd yn adlewyrchu’r amgylchedd naturiol ble mae’n cael ei gynhyrchu,” meddai Owen.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae bwyd a diod Cymru yn stori o lwyddiant ac mae Cig Oen Cymru ar flaen y dewis o gynnyrch sydd gennym. Rwy’n ddiolchgar i Hybu Cig Cymru am yr holl waith caled yn hyrwyddo’r cynnyrch Cymreig eiconig hwnnw.
“Rwyf wrth fy modd bod Aldi yn stocio Cig Oen Cymru premiwm mewn 29 o’i siopau yn ne a gorllewin Cymru.
"Rwy’n siŵr y bydd yn boblogaidd iawn ymhlith cwsmeriaid. Gobeithio y bydd yn ffordd o annog Aldi i ymestyn hyn i’w siopau ar draws y wlad, a buasai hynny’n hwb sylweddol i fasnach Cig Oen Cymru.”