Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Hydref 2016

Oxjam: diwrnod gwych o gerddoriaeth i ddinas Caerdydd

Mae gwledd ar droed ar gyfer ffans cerddoriaeth yng Nghaerdydd y penwythnos hwn wrth i Oxjam daranu drwy’r brif ddinas, fel rhan o ŵyl gerddoriaeth flynyddol Oxfam.

Mae Oxjam Caerdydd (Oxjam Cardiff Takeover) yn rhan o ŵyl gerddoriaeth ehangach Oxjam, fydd yn gweld cannoedd o gigs yn cael eu cynnal ar draws y DU y mis hwn.

Ers iddo ddechrau ddeng mlynedd yn ôl, mae Oxjam wedi codi mwy na £2.8 miliwn - digon i ddarparu dŵr glân i 2.8 miliwn o bobl.

Mae Caerdydd wedi cefnogi Oxjam er 2006 gyda gigs, ‘buskathons’ a phartïon te ar draws y ddinas.

Eleni, cerddoriaeth sydd ar y fwydlen, wrth i amrywiaeth anhygoel o fandiau ac artistiaid baratoi i berfformio.

Bydd gigs a pherfformiadau yn digwydd mewn gwahanol leoliadau ar draws y ddinas, gan gynnwys yn yr Urban Tap House a The Full Moon, gyda pherfformwyr a bandiau megis The People and The Poet, Violent Hearts, Rum Puppets, Thee Manatees a’r canwr o Gaerdydd, Siôn Russell Jones.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at berfformio yn Oxjam Caerdydd y penwythnos hwn," meddai’r cerddor, sydd bellach yn cael ei chwarae ar BBC Radio 1, BBC Radio 2 a BBC 6 Music.

"Mae 'na nifer fawr o fandiau ac artistiaid gwych yn chwarae, a gallwch fwynhau’r cyfan am ddim ond £10.

"Ac nid yn unig byddwch yn cael profi cerddoriaeth fyw anhygoel, byddwch hefyd yn cefnogi Oxfam i fynd i'r afael â thlodi ar draws y byd. Nawr dyna werth am arian!”

Gydag un tocyn mae modd cael mynediad i chwe lleoliad cerddoriaeth byw dydd Sadwrn 15 Hydref, gyda’r cwbl yn cychwyn am 12.00.

Meddai Rheolwr Oxjam Caerdydd, Amanda Lynch: "Mae'r dail yn crino ac mae'n dechrau oeri felly beth am ymuno â ni i gynhesu gyda thipyn o ddawnsio yn Oxjam Caerdydd?

“O roc amgen, i gerddoriaeth werin a phop breuddwydiol - mae'n mynd i fod yn ddiwrnod llawn dop o berfformiadau bywiog.

"Rydym yn gobeithio codi cymaint o arian ag y bo modd, a bydd y cwbl yn mynd i Oxfam i gefnogi ein hymgais i ddileu tlodi eithafol o fewn y 15 mlynedd nesaf.”

I weld rhestr lawr o’r bandiau a’r artistiaid sy’n perfformio yn Oxjam Caerdydd ewch i:  https://www.facebook.com/OxjamCardiffTakeover/ neu dilynwch @Oxjam_cardiff ar Twitter.

Llun: Siôn Russell Jones

Rhannu |