Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Hydref 2016

Cwmni trydan dŵr yn gwneud cais i ollwng dŵr i Lyn Padarn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn i bobl beth yw eu barn ynghylch ceisiadau cwmni am drwyddedau’n ymwneud â chynllun trydan dŵr yng Ngogledd Cymru.

Mae’r ceisiadau, gan Snowdonia Pumped Hydro Ltd, yn ymwneud â gollwng dŵr i Lyn Padarn a Nant y Betws yn Llanberis, fyddai’n ofynnol er mwyn gweithredu cynllun storio pwmpiedig yng Nglyn Rhonwy.

Bu i’r cwmni dynnu’n ôl ei geisiadau blaenorol am drwyddedau ar ôl i CNC ddweud wrthyn nhw nad oedden nhw wedi darparu gwybodaeth ddigon manwl ynglyn â rheolaeth a gweithredu’r cynllun.

Yn awr, bydd CNC yn asesu’r ceisiadau newydd yn fanwl, yn casglu cyngor a thystiolaeath technegol er mwyn bod yn hyderus a ddylai roi trwydded ai peidio.

Meddai Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau yn CNC: “Mae Llyn Padarn yn ased naturiol hollbwysig i’r ardal.

"Byddwn yn cynnal asesiad manwl o gynigion y cwmni er mwyn sicrhau na fyddan nhw’n arwain at niwed amgylcheddol, cyn penderfynu pa un a fyddwn yn rhoi’r trwyddedau ai peidio.

"Ymhlith ystyriaethau eraill, mae dŵr ymdrochi Llyn Padarn o ansawdd ardderchog a bydd yn rhaid inni gael ein bodloni na fydd hyn yn newid.

“Dim ond os byddwn yn berffaith fodlon y bydd cynlluniau’r cwmni’n profi y gallant weithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd na’r cymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwydded amgylcheddol.”

Bydd yr ymgynghoriad ar waith tan 9 Tachwedd 2016.

Fellir gwneud cais am gopïau electronig o’r ddogfenaeth trwy gysylltu â permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk neu drwy ffonio 0300 065 3000

Dylid anfon sylwadau ar y ceisiadau yn ysgrifenedig (gan ddyfynnu Glyn Rhonwy Snowdonia Pumped Hydro PAN 000733 a PAN 000734) at Cyfoeth Naturiol Cymru, Adran Drwyddedu (Caerdydd), Tŷy Cambria House, 29 Ffordd Casnewydd, Caerdydd, CF24 0TP neu drwy ebost at permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk  erbyn 9/11/2016.

Mae trwyddedau amgylcheddol yn elfennau ar wahân i’r broses gynllunio, a gaiff ei rheoli gan Gyngor Gwynedd a’r Arolygiaeth Gynllunio.

Er mwyn gweithredu cyfleuster o’r fath yn gyfreithlon, rhaid i gwmni gael trwyddedau amgylcheddol yn ogystal â chaniatâd cynllunio.

Hysbyseb y ceisiadau ar: http://naturalresources.wales/how-we-regulate-you/permit-applications-consultations-and-decisions/advertisements-of-applications-under-the-environmental-permitting-regulations-2010/glyn-rhonwy-slate-quarries/?lang=en

Llun: Llyn Padarn (gan Eric Jones)

Rhannu |