Mwy o Newyddion
Premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag hir-dymor
Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i holi trigolion os y dylai’r awdurdod gyflwyno cyfradd uwch o dreth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag yn y sir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r grym i gynghorau i godi swm ychwanegol o hyd at 100% dros lefel arferol treth cyngor ar eiddo o’r fath.
Hyd yma, mae cynghorau yn cynnwys Penfro, Ceredigion, Ynys Môn a Chonwy wedi dewis cyflwyno cyfradd uwch ar gyfer eiddo o’r fath.
Mae disgwyl y bydd Cyngor Gwynedd yn penderfynu ar ei bolisi dros y misoedd nesaf, ond cyn i gyfarfod o’r Cyngor llawn ystyried y mater mae cyfle rŵan i aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu sylwadau drwy lenwi holiadur byr.
Meddai Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd: “Gwynedd sydd â’r nifer uchaf o ail dai yng Nghymru a Lloegr.
"Mae bron i 5,000 o ail o dai yn y sir – sef eiddo heb fod yn unig na’n brif gartref person – a mwy na 1,000 o eiddo gwag hir-dymor.
“Os byddai Gwynedd yn penderfynu cyflwyno premiwm treth cyngor ar eiddo o’r fath, amcangyfrifir y byddai’r newid yn arwain at swm sylweddol o arian.
"Er enghriafft, pe bai’r Cyngor yn penderfynu cyflwyno premiwm, gallai cyfran o’r arian ychwanegol gael ei ddefnyddio i gynorthwyo i ddiwallu anghenion tai lleol ac i helpu i warchod gwasanaethau lleol mewn cyfnod pan mae cyllidebau yn cael eu gwasgu yn sylweddol.
“Cyn penderfynu ar y mater, mae’r Cyngor yn awyddus i aelodau’r cyhoedd rannu eu sylwadau ar yr amrywiol opsiynau trwy lenwi’r holiadur.”
Mae’r cyfnod ymgynghori ar agor tan 7 Tachwedd. I gymryd rhan, ewch i: http://www.gwynedd.llyw.cymru/PremiwmTrethCyngor neu nôl copi papur o’r holiadur yn eich llyfrgell neu Siop Gwynedd leol (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli).