Mwy o Newyddion
Condemnio cynlluniau pensiwn
Mae AS Plaid Cymru Hywel Williams wedi beirniadu cynlluniau llywodraeth Con-Dem y DG ar gyfer pensiynau menywod yn ystod cyfarfod o bwyllgor cyhoeddus y Mesur Pensiynau.
Dan gynigion y ConDemiaid, bydd yn rhaid i ryw 500,000 o fenywod a aned rhwng Hydref 1953 ac Ebrill 1955 aros am fwy na blwyddyn yn ychwanegol, gyda 27,000 yng Nghymru, ac, ar y gwaethaf 126,000 o fenywod a aned rhwng Rhagfyr 1953 a Hydref 1954 yn gorfod aros dwy flynedd cyn derbyn eu pensiynau gan y wladwriaeth.
Cred y Blaid y caiff hyn effaith waethaf ar fenywod o’r dosbarth gweithiol na fydd wedi llwyddo i arbed digon i dalu am wariant dwy flynedd yn ychwanegol ac na fyddant, oherwydd dyletswyddau gofal a diffyg swyddi llawn-amser sydd ar gael, yn gallu cau’r bwlch dros y blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r wladwriaeth gamu i’r adwy a’u helpu yn nes ymlaen yn eu bywydau, fel na fydd y newidiadau hyn yn arbed dim.
Meddai Hywel Williams AS: “Mae’r newidiadau pensiwn hyn a gynigir gan lywodraeth Con-Dem y DG yn annheg am nad yw’r bobl fydd yn cael eu taro waethaf mewn sefyllfa i newid pethau o gwbl.
“Mae menywod yr effeithiwr arnynt gan y newid hwn ar hyn o bryd rhwng 56 a 58 oed, a heb fawr o amser i newid eu bywydau, a dim llawer o gynilion i wneud iawn am y ffaith y bydd yn rhaid iddynt weithio am ddwy flynedd yn hwy na’r disgwyl.
“Er y bydd hyn yn effeithio ar bob menywod o’r oedran hwn, mae rhai effeithiau fydd yn cael eu gwaethygu.
“Rwyf i’n pryderu bod yr asesiad effaith am y cynigion hyn wedi anwybyddu dosbarth fel ffactor, gan mai ychydig o gynilion fydd gan ferched o’r dosbarth gweithiol, a lleoliad - gan mae’n dra thebyg y bydd y bobl fydd yn wynebu anawsterau yn byw yn yr un ardaloedd ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith â chyflog da dros y blynyddoedd nesaf i wneud iawn am y diffyg hwn.
“Dyma’r oedran hefyd pan mae menywod debycaf o fod yn ysgwyddo baich gofal - trwy ofalu am berthnasau oedrannus, ac y maent yn debyg o dderbyn ergyd ddeublyg gan gynlluniau’r ConDemiaid i dorri lwfansau gofal.
“Yn fy marn i, ni fydd yr arbedion arfaethedig hyn yn arbed dim os mai eu heffaith fydd gadael llawer o fenywod mewn tlodi fel pensiynwyr, sy’n golygu y bydd arnynt angen mwy o gymorth gan y llywodraeth i’w cynnal trwy ddiwedd eu hoes.”