Mwy o Newyddion
Dwy Gymraes o Geredigion yn cael cwmni Dai Jones yng Ngogledd Iwerddon
Bydd dwy fenyw o Geredigion, sydd bellach yn byw ar yr Ynys Werdd, yn cael cwmni Dai Jones, Llanilar, yn y gyfres newydd o Cefn Gwlad.
Yn y rhaglen ar nos Lun 17 Hydref am 8.30, bydd Dai yn teithio i Ogledd Iwerddon i gwrdd â Gwenan Morgan Lyttle.
Daw Gwenan yn wreiddiol o Dregaron ond mae hi bellach yn byw yn Pettigo, Donegal; tref sydd ar y ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae gan Gwenan a'i gŵr Alistair ddiddordeb mawr mewn cŵn defaid, ac yn ogystal â'u hyfforddi, mae'r ddau hefyd yn cystadlu mewn treialon yn rheolaidd.
Mae gan y teulu rôl bwysig yn y gymuned yn torri mawn fel tanwydd ar gyfer eu cymdogion, ac maen nhw'n benderfynol o gynnal y dulliau traddodiadol o godi'r mawn o'r ddaear.
Mae byw ar y ffin rhwng dwy wlad yn gosod heriau go anarferol, ac mi fydd Dai yn dysgu sut mae'r ffin yn dylanwadu ar ei bywydau o ddydd i ddydd.
Meddai Gwenan Lyttle: "Os dwi'n mynd i siopa yn y pentref, dwi angen arian Euro i dalu am y negeseuon.
"Ond rhan fwyaf o'r amser mae gen i Sterling yn fy mhwrs – ac felly mae'n rhaid i mi groesi 'nôl dros y ffin i siopa yn y Gogledd!"
Mi fydd Dai yn dychwelyd i Ogledd Iwerddon yn nes ymlaen yn y gyfres. Ar nos Lun 14 Tachwedd am 8.30, mi fydd yn ymweld â Gwawr McGirr a'i theulu yn Dromore, Armagh.
Cafodd Gwawr ei magu yn Aberystwyth a Swydd Amwythig, cyn mynd i'r brifysgol yn Rhydychen.
Ar ôl graddio, symudodd i Ogledd Iwerddon ac mae hi bellach wedi byw yno ers 15 mlynedd.
Yn ogystal â gofalu am y teulu, a'i gwaith prysur fel athrawes gerdd beripatetig a chyfeilydd, mae Gwawr hefyd yn helpu ei gŵr Michael i redeg busnes storio slyri a gwastraff y fferm.
Fel rhan o'i ymweliad ag Armagh, bydd Dai Jones yn dysgu am ddigwyddiad sydd wedi gadael ei graith ar yr ardal.
Ar 15 Awst 1998 yn nhref gyfagos Omagh, lladdwyd 31 o bobl gan fom car a osodwyd gan y Gwir IRA.
Mae ymweliad Dai â'r ardd goffa ar gyfer y rhai fu farw, yn cael cryn argraff arno.
Dywedodd Dai Jones: "Wrth edrych ar olygfeydd godidog ardal Omagh a llynnoedd Enniskillen, mae'n anodd credu bod y fath drychineb erchyll wedi digwydd mewn rhan mor brydferth o'r byd."
Cefn Gwlad
Nos Lun 17 Hydref 8.25, S4C
Isdeitlau Saesneg
Gwefan: s4c.cymru
Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C