Mwy o Newyddion
Polisi fisa y Swyddfa Gartref yn annheg i’r rhai sydd ar gyflogau isel
MAE achos mam o Bwllheli a dreuliodd bron i bum mlynedd yn ceisio dod a’i gŵr o Dwrci adref i’r DU, wedi ei godi yn Nhŷ’r Cyffredin gan ei Haelod Seneddol lleol.
Ymgymrodd Liz Saville Roberts Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd ag achos Hayley Aldirmaz yn gynharach eleni pan wrthodwyd i’w gŵr gael fisa ar y sail nad yw Hayley yn ennill cyflog digonol. Addawodd Liz Saville Roberts godi’r mater gyda’r Prif Weinidog.
Dywed cyfraith a gyflwynwyd yn 2012 fod rhaid i ddinasyddion Prydeinig ennill mwy na £18,600 y flwyddyn cyn y gall cymar an-Ewropeaidd ddod i’r wlad yma.
Mae Hayley wedi’i hyfforddi fel cymhorthydd meithrin ac yn gweithio’n bresenol mewn ysgol feithrin.
Plymiwr yw Hasan, ei gŵr. Mae eu dau blentyn mewn addysg llawn amser.
Ni all Hayley fforddio teithio i Dwrci yn ystod cyfnod gwyliau brig sy’n golygu na chant dreulio’r Nadolig gyda’i gilydd fel teulu.
Dywedodd Liz Saville Roberts AS yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher yr wythnos yma: “Dyma’r Nadolig cyntaf na all Hayley Aldirmaz weld ei gŵr, Hasan.
“Maent wedi bod hefo’u gilydd ers deng mlynedd ac yn briod ers pedair, gyda dau blentyn ifanc.
“Mae’n amlwg eu bod mewn perthynas tymor-hir, ond gwrthodwyd fisa cymar i’w gŵr yn 2012, oherwydd nad yw Hayley yn ennill rhiniog cyflog y Swyddfa Gartref o £18,600.
“Yn wir, ni enillodd hanner y gweithlu llawn amser yn Nwyfor Meirionnydd ond £293 yr wythnos neu lai flwyddyn diwethaf.
“Cymharwch hyn ac etholaeth y Prif Weinidog, ble mae cyfartaledd y cyflog yn £571, bron i £30,000 y flwyddyn.
“A all y Prif Weinidog egluro pam fod byw yn Nwyfor Meirionnydd yn golygu nad oes gan Hayley gyfle i gael bywyd teuluol llawn gyda’i gŵr, ac a wnaiff hi pob ymdrech i uno’r teulu cyn y Nadolig.”
Ychwanegodd: “Er pa mor galed y gweithia Hayley, nid yw’n cyrraedd y rhiniog cyflog o £18,600.
“Mae llawer o unigolion sy’n gweithio’n galed, llawer ohonynt yn ferched, hefo swyddi pwysig fel cymorthyddion dosbarth neu ofalwyr, yn methu cyrraedd y rhiniog incwm yma.
“Mae’r rheolau yma yn gwahaniaethu yn erbyn merched, ynghyd â llawer iawn o weithwyr llawn amser yn Nwyfor Meirionnydd.
“Mae polisi y Swyddfa Gartref yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail lle maent yn byw gan fod cyfleoedd economaidd yn amrywio’n sylweddol ar draws y DU.
“Mae’r rheolau yn stacio yn erbyn y rhai ar gyflogau isel, tra bod y rhai ar gyflogau uwch yn cael eu trin yn fwy ffafriol unwaith eto."