Mwy o Newyddion
Darganfod rhai o goed mwyaf y DU ym Mhlas Tan y Bwlch
Yn dilyn arolwg diweddar gan Gofrestr Coed Ynysoedd Prydain (TROBI), cafwyd cadarnhad fod rhai o'r coed mwyaf ym Mhrydain yn tyfu ar dir a gerddi Plas Tan y Bwlch, ger Maentwrog yn Eryri.
Ar ymweliad diweddar â Phlas Tan y Bwlch, nododd y coedyddwr Dr Owen Johnson, a Chofrestrydd TROBI (Cofrestr Coed Ynysoedd Prydain / Tree Register of the British Isles), fod gan y coed ym Mhlas Tan y Bwlch nifer o nodweddion eithriadol.
Gyda’i gilydd, mae yno bellach bedwar pencampwr coed y DU, 9 o bencampwyr Cymru, yn ogystal ag 16 o bencampwyr Gwynedd.
Un o bencampwyr y DU yw cochwydden anferth a ddaw’n wreiddiol o Siapan, sef y Cryptomeria japonica.
Mae’n rhan o gasgliad o goed ac mae’n anarferol iawn i gael casgliad o’r un coed o’r un oed a’r un tarddiad yn yr un lle.
Y casgliad hwn ar dir y Plas yw’r casgliad gorau o’r coed mwyaf o’u bath ym Mhrydain.
Ymhlith y coed mwyaf o’u bath ym Mhrydain i’w cael yma hefyd mae Cypreswydden Lawson ‘Stewartii’, Cypreswydden Sawara, a Choeden Celyn Olewydd.
O ran pencampwyr Cymreig mae Bedwen Lwyd, Coeden Katsura, Cypreswydden Sawara, Cochwydden Siapan, Coeden Hances Boced, Sbriwsen Ddwyreiniol, Rhododendron Tsieineaidd, Rhododendron Smith, a Phisgwydden Arian.
Dywedodd Dr Johnson: "Mae’n fwy na thebyg fod gan y goedwig ym Mhlas Tan y Bwlch y gyfres orau o Cryptomeria japonica (cochwydden Siapan) ym Mhrydain.
"Islaw Llyn Mair mae pinwyddlan fechan Fictoraidd bellach yn cynnwys tair 'pencampwr coed' sy’n tyfu bron ochr yn ochr.
"Mae hefyd amrywiaeth deniadol o goed yn y brif ardd, gan gynnwys Davidia (Llwyn y Golomen) nad oes ei hail o ran ei maint na’i harddwch. "
Wrth groesawu’r newydd, dywedodd y Pennaeth Busnes Y Plas, Andrew Oughton: "Rydym wedi bod yn ymwybodol o wychder y coed yn y Plas ers peth amser, ond nid oedd gennym syniad fod cymaint ohonyn nhw yn goed oedd y mwyaf o’u math.
"Gymaint yw’r cyfoeth o goed o’n cwmpas ni, fel bod yr ymgynghorydd gardd Tony Russell wrthi’n paratoi llyfr ar brif goed y Plas a gyhoeddir cyn hir.”
Lleolir hen blasty trawiadol Fictoraidd-Gothig Plas Tan y Bwlch yn yng nghanol un o olygfeydd mynyddig dramatig Parc Cenedlaethol Eryri.
Gosodwyd y gerddi sy’n amgylchynu’r plasty yn wreiddiol rhwng 1879 a 1912 ac maent yn cwmpasu 13 o erwau (5.2 hectar).
Maent yn cynnwys casgliad helaeth o rododendrons, asaleas sy’n blodeuo yn y gwanwyn, a thwnnel rhododendron sy’n 120 mlwydd oed.
Mae llwyni, rhosod a phlanhigion llysieuol yn tyfu mewn borderi sy’n wynebu'r de cynnes, ac yn eu blodau drwy gydol yr haf ac yn yr hydref mae’r dail ar goed gwych Plas Tan y Bwlch yn cynhyrchu lliwiau syfrdanol.
Yn ddiweddar, dathlodd Plas Tan y Bwlch ei ben-blwydd yn 40 oed fel Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’r gerddi ar agor i'r cyhoedd.
Llun: Cochwydden Siapan (gan Tony Russel)