Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2016

Diwrnod Agored Popdy, canolfan newydd i hybu’r Gymraeg ym Mangor

MAE canolfan newydd sbon i hybu’r Gymraeg ym Mangor ar fin agor ei drysau, gan nodi carreg filltir bwysig yn hanes Menter Iaith Bangor, a bydd diwrnod arbennig o weithgareddau hwyliog yn cael ei gynnal yno i nodi’r achlysur.

Cafodd yr hen adeilad yn Lôn Pobty ynghanol y ddinas ei adnewyddu’n ganolfan amlbwrpas gyda nawdd gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Menter Iaith Bangor. 

Bydd Popdy yn swyddfa i Fenter Iaith Bangor, a sefydlwyd dair blynedd yn ôl, a’u gweithiwr newydd, Dylan Bryn Roberts sy’n cael ei gyflogi fel rheolwr a swyddog datblygu gan Hunaniaith, yr uned oddi mewn i’r cyngor sy’n hybu’r Gymraeg.

Mae Dylan eisoes wedi bwrw iddi i drefnu rhaglen o weithgareddau yn Popdy ac mae ef a’r Fenter yn rhannu’r adeilad gyda staff Urdd Gobaith Cymru, rhanbarth Eryri, sydd wedi symud yno o’u swyddfa flaenorol ym Mharc Menai.

Bydd rhan o’r adeilad hefyd yn cael ei logi allan at ddefnydd sefydliadau a mudiadau eraill sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn dilyn agoriad swyddogol Popdy ddydd Gwener, 14 Hydref, bydd Diwrnod Agored yn cael ei gynnal yno ddydd Sadwrn, 15 Hydref, i gyd-fynd â’r Diwrnod Shw’mae Su’mae cenedlaethol, digwyddiad blynyddol lle mae’r pwyslais ar annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg.

Mae Menter Iaith Bangor yn croesawu’r cyhoedd i ddod i weld yr adeilad ac ymuno mewn rhaglen lawn o weithgareddau hwyliog wedi’u hanelu at blant ac oedolion. 

Ymhlith yr atyniadau i blant bydd Kariad y Clown, Mr Urdd a Magi Ann a gweithdai amrywiol gan gynnwys sesiynau celf yng ngofal Storiel a’r Llyfrgell a gweithdy iwcalili efo Alun Tan Lan.

Yn ystod y dydd hefyd bydd Dewi Llwyd yn holi panel o enwogion ac ieuenctid lleol am Fangor a lle’r Gymraeg yn y ddinas, ddoe a heddiw.

Bydd sesiwn jamio gan fyfyrwyr o’r Brifysgol a sesiynau ar gyfer dysgwyr, a bydd cyfle i brynu llyfrau, crynoddisgiau ac ati ar stondin Palas Print.

Mae Menter Iaith Bangor am estyn croeso cynnes i bawb, yn drigolion y ddinas ac ymwelwyr fel ei gilydd, i fwynhau’r gweithgareddau ac i weld yr adeilad sydd ar fin troi’n bwerdy i roi bywyd newydd i’r iaith ym Mangor.

Rhannu |