Mwy o Newyddion
Dychweliad Dr Hywel Ffiaidd
Mae Dr Hywel Ffiaidd yn ôl! Chwi hoelion wyth y genedl a fu’n mwynhau bywyd dros y degawdau diwethaf – byddwch yn barod - oherwydd, mae’r dyn ei hun yn dychwelyd i’r llwyfan gyda sioe newydd sbon wedi’i hysgrifennu’n arbennig ar gyfer Maes C nos Iau yr Eisteddfod eleni – a does neb yn saff.
Yn wleidyddiaeth, cyfryngau , y sefydliad – mae pawb yn ei chael hi yn y sioe ‘Heb flewyn ar fy nhafod’ – a dyna sut yn union y bydd y Dr ei hun a’i griw yn byhafio ar y noson – yn sicr o ddweud eu dweud – heb flewyn ar eu tafod.
O’r cychwyn cyntaf, mae’n amlwg bod y ddawn a’r hiwmor risqué’n dal i fodoli, ac mae ffraethineb yr ysgrifennu’n cydio yn y gynulleidfa o’r dechrau. Efallai nad sioe deuluol mo hon, ond bydd unrhyw un sy’n dod i’w gweld gyda meddwl agored – ac ychydig o hiwmor – yn cael modd i fyw!
Bu sioe gabaret Dr Hywel Ffiaidd yn diddanu cynulleidfaoedd ar draws Cymru am flynyddoedd ar diwedd y saithdegau a dechrau’r wythdegau, a dyma’r sioe gyflawn gyntaf i’w chreu ers y cyfnod hwnnw.
Dyma’r unig sioe Dr Hywel Ffiaidd gyflawn yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni, ac mae tocynnau eisoes yn gwerthu, felly archebwch yn fuan er mwyn sicrhau sedd yn un o ddigwyddiadau mawr y Steddfod. Mae’r sioe hon yn sicr o fod yn bwnc trafod yn ystod yr wythnos – gyda Chymry amlwg yn ceisio dyfalu os oes na unrhyw gyfeiriad atyn nhw – gyda rhai’n rhoi ochenaid o ryddhad ar y bore Gwener, eraill yn bytheirio – a rhai hyd yn oed yn gofyn pam ddim?
Meddai Guto Brychan, Trefnydd Maes C: “Roedd hi’n hen bryd atgyfodi’r hen Dr Hywel Ffiaidd, a lle gwell i wneud hynny nag yma yn Wrecsam? Dwi’n falch o adrodd nad yw’r criw wedi colli dim o’u brwdfrydedd, eu hwyl – a’u aflanrwydd – ac rwy’n siwr y bydd cefnogwyr gwreiddiol a rhai newydd yn cael modd i fyw ym Maes C nos Iau eleni.”
Cynhelir Maes C eleni yng nghanolfan hamdden Ysgol Clywedog, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, sydd gyfochrog â’r maes carafanau a Maes yr Eisteddfod. Am ragor o wybodaeth am Maes C, ewch i www.eisteddfod.org.uk – a gallwch brynu tocynnau ar gyfer y nosweithiau i gyd yma hefyd. Gallwch hefyd brynu tocynnau drwy ffonio 0845 4090 800 a bydd tocynnau ar gael o’r Ganolfan Groeso a Mynedfa 2 yn ystod yr wythnos – os oes rhai ar ôl.