Mwy o Newyddion
Clywed am gysylltiad chwedlonol newydd rhwng Côr y Cewri a Bryniau Preseli
Mae archaeolegwyr a daearegwyr wedi bod yn trafod y cysylltiad rhwng Bryniau Preseli a Chôr y Cewri ers blynyddoedd, ond bydd sgwrs gan Robin Heath ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys dydd Mercher 19 Hydref yn cyflwyno safbwynt newydd.
Yn ei sgwrs Discovering the original Stonehenge in the Preselis, bydd yr awdur a’r cyn-ddarlithydd yn ymhelaethu ynglŷn â’i honiad ei fod wedi dod o hyd i’r cynllun gwreiddiol ar gyfer cofeb fyd-enwog Wiltshire yng nghefn gwlad gogledd Sir Benfro.
Dywedodd Robin: “Mae archaeolegwyr bellach yn chwilio am dystiolaeth o gylch gwreiddiol o gerrig gleision yma ym Mryniau Preseli.
"Maen nhw’n edrych am gerrig sydd wedi goroesi a fydd yn profi, os ydynt yn cyfateb yn ddaearegol i gerrig Côr y Cewri, bod y cerrig wedi’u symud yno’n fwriadol gan ddyn.
“Mewn cyflwyniad â darluniau byddaf yn egluro sut mae’r cynllun gwreiddiol yn gysylltiedig â chaer chwedlonol Caer Sidi, ac â symudiadau’r haul, y lleuad a’r sêr, yn fwy na sut y canfu ychydig o gerrig gleision eu ffordd i Wastadedd Salisbury.”
Bydd cyfle i’r rhai fydd yn bresennol hefyd brynu llyfr diweddaraf Robin, Temple in the Hills: The creation of Stonehenge in Preseli.
Cynhelir barbeciw cyn y sgwrs rhwng 5.30pm a 7pm. Y pris fydd £3.50. Rhaid archebu lle ymlaen llaw.
Os hoffech le yn y sgwrs a/neu’r barbeciw ffoniwch 01239 891319.