Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2016

Arddangos gwaith Picasso, Turner a Da Vinci wrth ailagor Oriel Glynn Vivian

Mae Y Stiwdio gan Pablo Picasso, Snow Storm gan JMW Turner a deg llun gan Leonardo Da Vinci ymysg y paentiadau, y cerfluniau, y cerameg a'r gwaith celf arall a fydd i’w gweld yno am y tro cyntaf ers adnewyddu Oriel Glynn Vivian.

Mae wedi'i hailddatblygu er mwyn ei thrawsnewid yn atyniad sy'n addas i ymwelwyr y ganrif hon.

Mae’r gweithiau celf yn cael eu harddangos o ganlyniad i statws Glynn Vivian fel partner yn gysylltiedig â Plus Tate - menter gelf ar y cyd gydag Oriel Tate yn Llundain.

Ariannwyd y prosiect ailddatblygu ac adfer gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Abertawe, Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Sicrhawyd arian hefyd trwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai'r Cyng Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio: "Mae'n wych y bydd gwaith gan artistiaid nodedig fel hyn yn cael ei arddangos er budd ymwelwyr pan fydd y Glynn Vivian yn ailagor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn.

"Bydd y paentiadau hyn ynghyd ag arddangosiadau a gweithiau eraill gan artistiaid cyfoes mewn lleoliad sydd wedi'i ailddatblygu a'i adfer yn ysbrydoli, yn cyfareddu ac yn addysgu cannoedd ar filoedd o bobl dros y blynyddoedd sydd i ddod."

Mae nodweddion yr oriel sydd wedi'i hailddatblygu a'i hadfer yn cynnwys storfa gasgliadau newydd ar gyfer gwaith celf ac ardaloedd newydd ar gyfer darlithio, arddangosfeydd teithiol, ymchwil ac arddangosiadau o gasgliadau.

Deg o luniau Leonardo da Vinci o'r Casgliad Brenhinol fydd y rhai fydd yn cael eu harddangos yn y Glynn Vivian.

Rhannu |