Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2016

Chwedlau a mytholeg yn ysbrydoli rhaglen gyrsiau Tŷ Newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen o gyrsiau ysgrifennu creadigol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ar gyfer 2017.

Mae’r rhaglen yn cynnig cymysgedd o gyrsiau ac encilion diwrnod, penwythnos ac wythnos o hyd sy’n addas ar gyfer egin awduron yn ogystal â’r profiadol.

Ymysg uchafbwyntiau’r cyrsiau Cymraeg y mae ymdrochiad ym myd chwedlau ddoe a heddiw yng nghwmni Mair Tomos Ifans; cwrs Ysgrifennu Stori gyda Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros; arweiniad ar ysgrifennu i bapurau bro gyda Lowri Haf Cooke; cyrsiau ysgrifennu creadigol ar gyfer dysgwyr Cymraeg; a bydd y Cwrs Cynganeddu yn dychwelyd mewn partneriaeth â Barddas dan arweiniad Twm Morys ac Eurig Salisbury, ar ôl début hynod lwyddiannus yng ngwanwyn 2016.

Yn ogystal bydd Menna Elfyn a Paul Henry yn arwain penwythnos o gyfieithu cerddi; yr awdur Francesca Rhydderch yn cydweithio â Mavis Cheek i diwtora cwrs ffuglen; cwrs Taith y Nofel gyda’r awduron o Gaerdydd, Kate Hamer, a ysgrifennodd The Girl in the Red Coat (Faber & Faber), a Holly Müller; cwrs Ysgrifennu Gwaith Ffeithiol-Greadigol dan arweiniad yr awduron Horatio Clare a Jon Gower; a bydd Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru, a’r Bardd Llawryfog Carol Ann Duffy yn dychwelyd i arwain Dosbarth Meistr Barddoniaeth.

I weld rhaglen gyrsiau Tŷ Newydd 2017 yn llawn, cliciwch http://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig gostyngiad o 10% oddi ar bris y cyrsiau preswyl tan 31 Ionawr 2017 gyda’r cod TN2017.

Llun: Twm Morys

 

 

Rhannu |