Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2016

Galw am fwy o gŵn tywys

A hithau’n Wythnos Cŵn Tywys bu Sian Gwenllian AC dros Arfon yn cyfarfod aelodau o Gymdeithas y Deillion a Chŵn Tywys Cymru (Guide Dogs Wales) er mwyn clywed am eu profiadau yn Arfon.

Cost yr hyfforddiant o bum mlynedd i gi tywys yw £5,000, ond gall y gost fod cymaint a 50 mil o bunnau dros oes y ci, gyda biliau milfeddyg a gofalon eraill.

Bu Sian Gwenllian, i fore coffi yng Nghaernarfon i glywed beth yw pwysigrwydd ci tywys i bobol sydd yn ddall neu â nam golwg.

“Roedd hi’n fore cymdeithasol iawn a phawb yn sgwrsio, a dyna yw profiad person dall sydd yn defnyddio ci tywys yn hytrach na ffon wen,” meddai Sian Gwenllian.

“Mae pobol lawer fwy tebygol o ddod at berson dall i sgwrsio neu i gynnig help pan fo nhw allan efo’u ci, ond mae yna dipyn o restr aros o bobol sydd isho ci, ond dim un ar gael iddyn nhw ar y funud.”

Meddai Buddug Jones o Gymdeithas y Deillion: “Rydw i’n defnyddio ffon wen ar fy ngwyliau neu pan mae Freya fy nghi yn sal, ond does na ddim cymhariaeth rhwng y ffon a Freya.

"Dwi’n teimlo gymaint saffach efo’r ci, mae hi’n fy nhywys i’n ddiogel a does dim rhaid imi feddwl cymaint â phan dwi’n defnyddio ffon.

"Fi sy’n gorfod gwneud y gwaith meddwl i gyd pan rydw i allan efo ffon, ac rydw i’n blino’n llawer gynt.

"Hefyd mae fy mraich yn cael ambell glec wrth imi ddod yn erbyn rhywbeth efo’r ffon, felly mae mynd efo Freya yn brofiad brafiach o lawer."

Ychwanegodd Sian Gwenllian: "Mae nifer o blant a phobol ifanc yn Arfon sydd â nam golwg yn dechrau hyfforddi gyda ffon wen ac rydw i’n siŵr y bydd nifer ohonynt yn dymuno cael ci tywys wrth iddynt fynd yn hŷn.

"Mi fyddai’n braf meddwl bod digon o gŵn yn mynd i fod ar gael i’r bobol ifanc rheiny pan fo’r amser yn dod.” 

Rhannu |