Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Hydref 2016

Arloeswr cerddoriaeth electroneg i gyflwyno gwaith newydd yn Pontio Bangor

Bydd Denis Smalley, sy’n cael ei adnabod fel un o arloeswyr cerddoriaeth acwsmatig, yn Theatr Bryn Terfel Pontio ar Ddydd Iau, 20 Hydref (7.30pm) fel rhan o gyngerdd arbennig o gelf sonig i ddathlu ei ben-blwydd yn 70.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r theatr gael ei ddefnyddio ar gyfer celf sonig a bydd y gyngerdd ‘Unseen Preludes’, cyflwynir gan Electroacwsteg Cymru, rhan o Brifysgol Bangor, yn gyfle i’r cyfansoddwr berfformio gwaith newydd gan gynnwys première Cymru o Fabrezan Preludes ynghyd â’r celf sonig diweddaraf o Gymru.

Bydd y rhaglen yn cael ei pherfformio ar ‘Acousmonium’ Electroacwsteg Cymru, sef cerddorfa o uchelseinyddion.

Meddai Andrew Lewis o Electroacwsteg Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at arbrofi yn Theatr Bryn Terfel o ran electroacwsteg, a dod a Denis Smalley yma i Fangor i berfformio gwaith newydd.

"Rydym yn gobeithio llenwi pob rhan o’r theatr gyda sain, gan greu profiad gwirioneddol wefreiddiol o sain mewn gofod.

"I ffans o gerddoriaeth electroacwsteg mae hyn yn gyffrous dros ben, ac i eraill sy’n chwilio am rhywbeth hollol wahanol, beth am ymuno â ni ar yr antur sonig yma?”

I gyd-fynd â’r gyngerdd bydd cyflwyniad a gweithdy ‘Sesiwn ymarferol gyda’r Acousmonium’ rhwng 1-2pm yn Theatr Bryn Terfel lle fydd posib rhoi cynnig ar daflu seiniau allan i’r gofod, gan gyfarwyddo’r gerddorfa o uchelseinyddion o’r consol cymysgu – addas i bob oedran.  Am ddim ond rhaid archebu lle.

Bydd hefyd arddangosfa drod dro ‘Llinellau Croes’ gan Ant Dickinson yn edrych ar offerynnau sydd wedi ei rheoli’n ddigidol, yn fecanyddol neu a wnaed â llaw yng ngofodau cyhoeddus Pontio rhwng 12.30-1.30pm a 6.30-9pm ar Ddydd Iau, 20fed Hydref.

Rhannu |