Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Hydref 2016

Llywodraeth Cymru yn methu â chyflogi’r un prentis

Methodd Llywodraeth Cymru â chyflogi’r un prentis llynedd, ar waethaf addewid yn eu maniffesto yn galw am 100,000 o brentisiaethau yng Nghymru.

Daw’r wybodaeth o gais Rhyddid Gwybodaeth gan Llyr Gruffydd  o Blaid Cymru, ysgrifennydd cysgodol y Blaid dros ddysgu gydol oes. Mae’n datgelu dirywiad flwyddyn ar ôl blwyddyn er 2011.

Dywedodd Mr Gruffydd: “Mae Llywodraeth Cymru yn gyflogwr o bwys, gyda thros 5,000 o staff ar hyd a lled Cymru.

"Mae ganddynt darged o 100,000 o brentisiaethau yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, a dylent fod yn gosod gwell esiampl trwy gyflogi prentisiad.

"Ers 2011 bu’r ffigwr yn llithro o uchafbwynt o 68 i ddim yn 2015.

"Mae’r ffigwr am eleni yn dangos cynnydd bychan i 19, ond y mae’n dal yn siomedig o gofio maint y sefydliad a’r angen i osod esiampl.

“Bydd cyflogwyr yn siŵr o feddwl a yw’r Llywodraeth o ddifrif ynghylch prentisiaethau os nad yw’n gweithredu ar ei geiriau.

"Cred Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud mwy i hybu prentisiaethau a gosod esiampl i bob cyflogwr arall yng Nghymru.”

Llun:  Llyr Gruffydd

Rhannu |