Mwy o Newyddion
Lansio ymyrch ‘curwch ffliw’
CAFODD yr ymgyrch genedlaethol flynyddol i annog pobl mewn grwpiau cymwys ar draws Cymru i gael brechlyn ffliw i’w hamddiffyn eu hunain rhag y salwch ei lansio heddiw.
Nod ‘Curwch Ffliw’ bob blwyddyn yw annog y bobl sydd ei angen fwyaf i gael amddiffyniad yn erbyn ffliw, sy’n gallu bod yn salwch peryglus.
Mae hyn yn cynnwys pawb sy’n 65 a hŷn, pobl sydd â rhai cyflyrau iechyd cronig tymor hir penodol a menywod beichiog.
Mae gofalwyr, gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf brys ac Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol hefyd yn gymwys i dderbyn y brechlyn, a gaiff ei roi ar ffurf chwistrelliad bach i’w braich.
Dylai gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol llinell flaen gael brechlyn fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol, i’w hamddiffyn eu hunain a’r bobl sydd dan eu gofal.
Caiff y rhaglen frechu ei hehangu eleni i blant a bydd y rhai sydd rhwng dwy a saith oed yn gymwys.
Mae’r brechiad i blant yn cael ei roi fel chwistrell drwynol syml gyda phlant dwy a thair oed yn ei gael yn eu meddygfa leol tra bydd plant yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1, 2 a 3 yn yr ysgol gynradd yn cael y chwistrelliad drwynol yn yr ysgol.
Mae Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Teresa Owen, yn annog pawb sy’n gymwys i gael y pigiad ffliw.
Meddai: “Rydym yn mynd ati i gefnogi ymgyrch Curo’r Ffliw er mwyn diogelu ein cymunedau.
“Mae’n bwysig iawn cael y brechiad hwn os ydych yn 65 oed neu hŷn, yn feichiog, neu â chyflwr iechyd sy’n eich rhoi mewn perygl o gymhlethdodau’r ffliw er enghraifft os oes gennych diabetes, clefyd y galon neu glefyd anadlol cronig – derbyniwch y cynnig am frechiad am ddim.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, a lansiodd yr ymgyrch, ei bod yn hanfodol fod y rheini sydd â risg o gael ffliw a’i gymhlethdodau’n cael y brechlyn am ddim.
Mae Rebecca Evans wedi annog eraill i ymuno â hi i addunedu i Guro Ffliw.
Meddai: “Gall ffliw fod yn salwch sy’n beryg bywyd i bobl sydd mewn perygl oherwydd eu hoedran, am fod ganddyn nhw broblem iechyd sylfaenol neu am eu bod yn feichiog.
“Yn anffodus, mae’n lladd pobl yng Nghymru bob blwyddyn.
“Gall pobl hefyd addunedu i Guro Ffliw drwy atgoffa perthnasau a ffrindiau cymwys i gael eu brechlyn ffliw yr hydref hwn.
“Rydym ni’n rhedeg y rhaglen hon bob blwyddyn i wneud yn siŵr nad yw pobl yn mynd yn ddifrifol wael gyda ffliw, yn enwedig gan fod modd ei atal mor gyflym a syml – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amddiffynfa gynnar.”
Anogir gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd i gael brechlyn ffliw gan mai dyma’r ffordd orau i atal lledaenu’r clefyd, a dylai eu cyflogwyr eu cefnogi yn hyn o beth.
Bob blwyddyn mae’r brechlyn ffliw yn newid i gyd-fynd â’r firysau ffliw sy’n cylchredeg er mwyn sicrhau’r amddiffyniad gorau.
Caiff y mwyafrif o frechlynnau ffliw y GIG eu rhoi mewn meddygfeydd teulu, ond mae hefyd ar gael mewn fferyllfeydd cymunedol ar draws Cymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n arwain yr ymgyrch a bydd yn weithredol rhwng hyn a mis Rhagfyr.
Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Bob blwyddyn mae firysau ffliw yn cylchredeg ac yn achosi i lawer o bobl fod yn sâl.
“Mae’r firysau hyn yn newid yn rheolaidd ac mae amddiffyniad y brechlyn yn pylu dros amser, felly os ydych chi mewn grŵp risg ac wedi cael y brechlyn y llynedd dylech sicrhau eich bod yn cael eich brechu eto eleni i’ch diogelu rhag y ffliw y gaeaf hwn.
“Cael eich brechu yn erbyn ffliw bob blwyddyn yw’r ffordd orau i ddiogelu yn erbyn dal neu ledaenu ffliw.
“Gall ffliw fod yn wirioneddol ddifrifol hyd yn oed os caiff ei drin, ond mae cael eich brechu’n cynnig amddiffyniad da, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn Curo Ffliw cyn iddo eich curo chi!”
Salwch resbiradol yw ffliw, sy’n cael ei achosi gan firws sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybr anadlu.
Mae symptomau fel arfer yn ymddangos yn sydyn, ac yn cynnwys twymyn, fferdod, cur pen, peswch, dolur corfforol a blinder.
Caiff y firws ffliw ei ledaenu drwy ddefnynnau sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan fydd person sydd wedi’i heintio’n peswch neu’n tisian.
Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebedd wedi’u halogi yn gallu lledaenu’r haint hefyd.
Gall ledaenu’n gyflym, yn enwedig mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac ysgolion.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i http://www.curwchffliw.org neu http://www.beatflu.org neu edrych am Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.