Mwy o Newyddion
Ymgyrch labelu bwyd
Cynhaliodd Jill Evans ASE gyfarfod yn Strasbwrg yr wythnos yma i Sefydliad y Merched gyflwyno eu hymgyrch dros labelu gorfodol am wlad tarddiad i gyd-ASE. Cynhaliwyd y ddadl cyn pleidlais ar labelu bwyd sydd i’w chynnal yn y sesiwn lawn yr wythnos hon.
Er bod llywodraeth y DG yn mynnu bod cynllun gwirfoddol yn ddigonol, dengys ymchwil diweddar gan aelodau SyM y gellir canfod cynhyrchion heb y labeli priodol yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd.
Meddai Jill Evans: "Rwy’n llawn gefnogi ymdrechion SyM yn ymgyrchu am i’r UE ei gwneud yn orfodol dweud ar labeli o ble daw’r bwyd. Dangosodd eu hymchwil mai dyma beth mae defnyddwyr eisiau - yn wir, mae 98% o aelodau SyM yn cefnogi hyn.
"Yng Nghymru, mae ein cig yn gynnyrch o safon uchel yr ydym ni’n falch ohono, ac yr ydym am iddo gael ei adnabod felly, yn enwedig pan all fod yn cystadlu â chig is o ran pris sy’n dod o wlad heb safonau mor uchel. Dyma’r math o ddeddf y dylai’r UE fod yn ei mabwysiadu - un sy’n gwarchod y cynhyrchwyr a’r defnyddwyr.
"Bydd y gyfraith sydd i’w mabwysiadu yr wythnos hon yn sicrhau y labelir gwlad y tarddiad ar bob cig ffres. Nid dyma ddiwedd yr ymgyrch, am ein bod eisiau i bob cynnyrch cig a llaeth gael ei labelu â gwlad eu tarddiad.
"Rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd gynhyrchu adroddiad gydag asesiad effaith ar ymestyn y gyfraith i gynnwys y cynhyrchion hyn yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddaf yn gweithio gyda SyM yn ogystal ag â grwpiau defnyddwyr ac undebau’r amaethwyr yng Nghymru i ofalu y cawn y labelu gorau oll i’n defnyddwyr."