Mwy o Newyddion
Agoriad swyddogol cae 3G Y Bala
Roedd cynnwrf mawr yn Y Bala dros y penwythnos wrth i gae pêl-droed 3G ar Faes Tegid agor yn swyddogol ar ei newydd wedd.
Croesawodd glwb pêl-droed Y Bala gynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, aelodau Cymdeithas Pêl-droed Cymru ynghyd â cyn-chwaraewr Cymru a sylwebydd pêl-droed ar gyfer Sgorio, Malcolm Allen, a dorrodd y rhuban yn swyddogol.
Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae’r datblygiad £500,000 yma ar gael i blant ysgolion lleol i’w ddefnyddio yn ystod oriau ysgol a bydd y gymuned ehangach hefyd yn elwa.
"Yn ogystal a’r buddsoddiad o £10 miliwn i sefydlu campws dysgu modern ar gyfer disgyblion rhwng 3-19 oed yn y dref, sef cynllun fydd hefyd yn adnewyddu’r llyfrgell ac adnoddau celfyddydol; bydd y cae 3G newydd yma yn rhan o wasanaethau cymunedol ychwanegol pwysig ar gyfer y Bala a’r ardal gyfagos.”
Daeth cefnogwyr brwd Y Bala draw i Faes Tegid brynhawn Sadwrn i wylio’r gêm yn erbyn Alloa Athletic yng Nghwpan Her yr Alban.
Nid oedd perfformiad brwyfrydig y tîm cartref yn ddigon i guro’r tîm o’r Alban a enillodd 4-2 ar y diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy’n cynrychioli’r Bala ar Gyngor Gwynedd: “Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn gwella’n arw'r gallu i gynnal chwaraeon trwy gydol y flwyddyn, beth bynnag fo’r tywydd, wrth fynd ati i annog holl blant ysgolion yr ardal i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff i ddatblygu eu sgiliau pêl-droed.
“Mae’n hanfodol fod bobl ifanc sydd wedi’u hysbrydoli yn sgil llwyddiant diweddar y tîm cenedlaethol, a chlwb pêl-droed Bala, yn medru cael mynediad at adnoddau ac offer addas, yn enwedig mewn ardal wledig.”
Meddai Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Tref Y Bala, Nigel Aykroyd: “Mae hwn yn gam enfawr i bêl-droed a’r gymuned a hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i’r FAW, UEFA a Chyngor Gwynedd am eu cefnogaeth i wireddu’r freuddwyd hon.”
LLUN: Agoriad swyddogol cae 3G Y Bala - Andrew Howard o’r Gymdeithas Bêl-droed; Malcolm Allen; Ruth Crump a Nigel Aykroyd o Glwb Pêl-droed Y Bala; Arwyn Thomas, Pennaeth Addysg Cyngor Gwynedd; Cadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Eric Jones, Cadeirydd y clwb Arwel Roberts a’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd