Mwy o Newyddion
Llwyddiant lliwgar Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Penybont, Taf ac Elái 2017
Gorymdeithiodd oddeutu 4,000 o bobl o bob lliw a llun drwy dref Penybont ddydd Sadwrn, 8 Hydref i ddathlu dyfodiad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i Benybont, Taf ac Elái fis Mai 2017.
Mae’r Ŵyl Gyhoeddi yn gyfle i blant, pobl ifanc, athrawon, rhieni a phobl leol i ddathlu ac i ddangos eu cefnogaeth i Eisteddfod yr Urdd, fydd yn dod i’r ardal 29 Mai – 3 Mehefin 2017.
Yn eu coch, gwyn a gwyrdd ac yn chwifio baneri di-ri, gorymdeithiodd y criw enfawr i sain band pres a band samba o Goleg Penybont i gaeau Bontnewydd.
Yno roedd llond y lle o adloniant gan gynnwys cerddoriaeth fyw, perfformiadau gan blant yr ardal, sesiynau chwaraeon a stondinau.
Dywedodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd “Cawsom ddathliad a chefnogaeth ragorol ddydd Sadwrn gan drigolion ardal Penybont, Taf ac Elái. Croeso penigamp i’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
"Diolchwn yn fawr i’r cynghorau tref a chymuned, cynghorau Penybont a Rhondda Cynon Taf yn ogystal ag ysgolion, aelwydydd, grwpiau a’r llu o unigolion ddaeth i gyfrannu at lwyddiant yr Ŵyl Gyhoeddi. Mae’n argoeli’n dda ar gyfer 2017!”