Mwy o Newyddion
Cymorth Cristnogol Cymru yn lansio taith gerdded o 140 milltir – “Ffoi i’r Aifft” – i gydsefyll gyda ffoaduriaid y Nadolig yma
Heddiw mae Cymorth Cristnogol Cymru yn lansio Apêl Nadolig gan alw ar bobl Cymru ymuno â nhw ar daith 140 milltir ar draws Cymru mewn undod gyda ffoaduriaid.
Heddiw, mae yna 65 miliwn o bobl yn ffoaduriaid ar draws y byd – y mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd.
I dynnu sylw at yr angen llethol sy’n eu hwynebu, bydd tîm o staff a chefnogwyr Cymorth Cristnogol a Cytun, (Eglwysi ynghyd yng Nghymru) yn arwain taith gerdded noddedig “Ffoi i’r Aifft” ar draws Cymru, o Fethlehem (Sir Gaerfyrddin) i’r Aifft (Sir Ddinbych), gan godi arian tuag at Apêl Nadolig Cymorth Cristnogol.
Bydd y daith yn cychwyn gyda gwasanaeth ym Methlehem bore Sul, 4 Rhagfyr ac yn teithio i fyny drwy Edwinsford, Llanbed, Tregaron, Aberystwyth, Ynyslas – lle y bwriedir croesi’r Afon Ddyfi mewn cwch, yn yr un modd a’r miloedd o ffoaduriaid sydd wedi ceisio croesi Môr y Canoldir.
Ymlaen wedyn i Fachynlleth, Brithdir, Bala, Rhuthun a chyrraedd yr Aifft ar 15 Rhagfyr.
Bydd gwasanaeth arbennig yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy i gloi’r daith nos Iau , 15 Rhagfyr am 7 o’r gloch gydag Esgob Gregory Cameron, Esgob Llanelwy yn pregethu.
Meddai’r Canon Aled Edwards, Prif Weithredwr CYTUN: “Rwy’n falch iawn o’r cyfle i fod yn rhan o’r daith arbennig hon.
Cefais y fraint o deithio i weld sefyllfa’r ffoaduriaid ar y ffin rhwng Serbia a Macedonia ac mae’n holl bwysig ein bod yn dal ar bob cyfle i godi llais ac i godi arian i leddfu’r angen mawr sy’n wynebu’r teuluoedd hyn sydd wedi ffoi rhag sefyllfaoedd enbyd yn ein byd.”
Meddai Huw Thomas yng Nghaerdydd, Pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, sy’n bwriadu cerdded yr holl siwrne: “Gyda thymor y Nadolig yn agosáu, cofiwn fel y bu raid i Iesu a’i deulu ffoi i’r Aifft i ddianc rhag trais Herod.
"Heddiw, mae Cymorth Cristnogol yn gweithio gyda phobl sydd mewn sefyllfa debyg, gan ddarparu cymorth dyngarol megis bwyd, meddyginiaethau a phecynnau glendid, mewn gwersylloedd ffoaduriaid ar draws y byd.
"Mae’r daith gerdded hon yn fodd nid yn unig i godi arian hanfodol i gynnal ein gwaith, ond hefyd i dynnu sylw i’w dioddefaint, a herio’r ffordd negyddol y mae’r cyfryngau a’r llywodraeth wedi bod yn portreadu ffoaduriaid.”
Am fwy o wybodaeth, ac i gofrestru i gerdded y daith, neu rhannau ohoni, neu i noddi’r cerddwyr, ewch i wefan Cymorth Cristnogol - http://www.christianaid.org.uk/cymru/news/escape.aspx?Page=2